|
|
Parch. M. Hughes, Periglor Llanwyddelan,
Trefaldwyn_.
Ceisiais dybio'r son yn anwir,
Syrthio Caroline i lawr,
Ac nad allai seren eglur,
Fachlud wedi t'wnnu ond awr:
Ond y glul ar gefn yr awel,
Swn y fron yn hollti'n ddwy,
Adsain och sy'n gwaeddi'n uchel,
Ofer anghrediniaeth mwy.
Hir y cofir y diwrnod
A esgorodd ar y gwae,
Pan y rhedai i gyfarfod
Cyfeillesau i odrau'r cae;
Blaenai'r dyrfa tu a'r annedd,
Crechwen ar ei hwyneb pryd;
Ychydig dybiai mai i'w hangladd,
'Roedd yn gwadd y cwmni ynghyd.
Gyd ag eistedd, deuai angau
'N nesu ati gam a cham,
Ac ni throi oddiar ei siwrnai,
Er gwaedd mil, er gweddi mam;
Delwai'r tylwyth gan yr alaeth,
Gwnaent ei gwely fel yn lli',
Hithau'n dawel dan yr artaith,
Pawb och'neidient ond y hi.
Pan oedd oed yn rhoddi coron
Aeddfed ar ei dull a'i dawn;
Myrrh ac olew yr Ysgolion,
Wedi'i pherarogli'n iawn;
Pob disgwyliad gwych yn agor,
Hithau'n ddedwydd yn ei rhan,
Cadd ei galw ar ei helor,--
Y swyn a dorrwyd yn y fan.
Treigliad ei golygon llachar,
Ei throediad ysgafn ar y ddol,
Corff ac enaid oll yn hawddgar,
Dynnai'r galar ar ei hol;
Ond mae tryliw rhos a lili,
Wedi gwelwi ar ei gwedd,
'N awr ni ddena serch cwmpeini
Mwy na phryfed man y bedd.
Ffarwel iddi! boed i'r ywen
Gadw llysiau'i bedd yn llon,
A gorwedded y dywarchen
Werdd, yn ysgafn ar ei bron
Sycher dagrau ei rhieni,--
Ior y Nef i'w harwain hwy,
Nes y cwrddant ryw foreuddydd,
Na raid iddynt 'mado mwy.
CYFIEITHIAD O FEDD-ARGRAFF SEISNIG.
Ty llong gadd lan, lle'r oedd fy nghais,--
O'r tonnau treiddiais trwy;
Er dryllio'm hwyl gan lawer gwynt,
Na chlywir monynt mwy.
O gernau'r 'storm ces ddod yn rhydd,
Daeth angau'n llywydd llon,
A pharodd im' mewn gobaith glan,
Angori'n 'r hafan hon.
BUGEILGERDD.
Ar don "_Kate Kearney_."
DEWI.
A welaist, a 'dwaenaist ti Doli,
Sy' a'i defaid ar ochr Eryri?
Ei llygad byw llon
Wnaeth friw ar fy mron,
Melusach na'r diliau yw Doli.
HYWEL.
O do, mi adwaenwn i Doli,--
Mae'i bwthyn wrth droed yr Eryri;
'D oes tafod na dawn
All adrodd yn iawn
Mor hawddgar a dengar yw Doli.
Un dyner, un dawel yw Doli,--
Mae'n harddach--mae'n lanach na'r lili;
'Does enw is nen
A swnia'n ddisen
Mor ber gyda'r delyn a Doli.
DEWI
Ow! ow! nid yw'n dyner wrth Dewi,--
'Does meinir yn delio fel Doli,
Er ymbil a hi
A'm llygad yn lli,
Parhau yu gildynus mae Doli.
Ymdrechais wneyd popeth i'w boddio,
Mi gesglais ei geifr idd eu godro,
Dan obaith yn llwyr
Y cawn yn yr hwyr
Gusanu yn dalu gan Doli.
Mae'i mhynwes mor wynned a'r eira,--
Mae'i chalon mor oered mi wiria';
Ar f' elor ar fyrr
Fy nghariad a'n ngyrr--
O oered a deled yw Doli!
Tri pheth a dim mwy wy'n ddymuno,--
Pob bendith i Doli lle delo,--
Cael gweled ei gwedd
Nes myned i'm medd,--
A marw yn nwylo fy Noli.
YR HEN AMSER GYNT.
Bu'n hoff i mi wrth deithio 'mhell
Gael croesaw ar fy hynt;
Mil hoffach yw cael "henffych well"
Gan un fu'n gyfaill gynt.
Er mwyn yr amser gynt, fy ffrynd,
Yr hen amser gynt;
Cawn wydriad bach cyn canu'n iach,
Er mwyn yr amser gynt.
Yn chwareu buom lawer tro,
A'n pennau yn y gwynt;
A phleser mawr yw cadw co
O'r hyfryd amser gynt.
Er digwyddiadau fwy na rhi',--
Er gwario llawer punt;
Er llawer coll, ni chollais i
Mo'r cof o'r amser gynt.
Tra cura calon yn fy mron,
Drwy groes neu hylon hynt,
Rhed ffrydiau serch drwy'r fynwes hon
Wrth gofio'r amser gynt.
[Yr Amser Gynt: "Rhed ffrydiau serch drwy'r fynwes hon
Wrth gofio'r amser gynt.": alun88.jpg]
I --
Ty anwyl ferch, delw'm serch, clyw annerch clwy enaid,
Tro'ist yn ddu'r cariad cu, a chanu'n ochenaid;
A oedd un llaw drwy'r dref draw i nharaw'n anhirion?
A oedd yn mhleth, at y peth, ddwrn yr eneth union?
Yn wir dy wg dagrau ddwg i'r golwg o'r galon,
Oni chaf hedd af i'm bedd i orwedd yn wirion.
P'le mae'r gred, gofus ged, adduned oedd anwyl?
Ai si a siom yr amod drom unasom ryw noswyl?
P'le mae'r drem, fel gwawr gem, a luniem dan lwynydd?
Torrai'n syn swyn y llyn, y delyn, a'r dolydd:
Yn iach i'th wedd, mi wela 'medd, wan agwedd yn agor;
Dywed di, fy mun, i mi, a wyli ar fy elor?
Pan weli sail y bedd, a'r dail ar adail mor hoewdeg,
Ac uwch y tir, ysgrif hir, o'r gwir ar y garreg,--
Mai d'achos di, greulon gri, fu'n gwelwi'r fau galon;
Ai dyma'r pryd, daw gynta'i gyd, iaith hyfryd o'th ddwyfron?
Gorchwyl gwan rhoi llef drwy'r llan, troi'r fan yn afonydd,
Rhy hwyr serch felly, ferch, i'm llannerch bydd llonydd.
GADAEL RHIW.
Gofid dwys a wasga 'nghalon,
Adael Rhiw a'i glannau gleision,
Dolau hardd lle chwardda'r meillion,
A chysuron fyrdd:
Gadael mangre englyn,
Diliau mel, a'r delyn;
Gadael can gynhenid lan,
Eu cael a'u gadael gwedyn;
Gadael man na sangodd achwyn;
Ond er gadael ceinciau'i gorllwyn,--
_Yng ngauaf oes fe saif Trefaldwyn_,
_Ar fy nghof yn wyrdd_.
Trwm, rhy drwn, rhoi ymadawiad
A bro na welir cuwch ar lygad,
Na diffyg ar ei haul na'i lleuad,
I ddylu blodau fyrdd;
Troi i sych Rhydychen,
O Bowys, hen bau Awen,
Lletty hedd, a bwrdd y wledd,
Lle'r adsain bryn a chrechwen:
Gadael llon athrawon gwiwfwyn
Och! ni wn pa fodd i gychwyn. &c.
Try yr ymadawiad ysol,
Nwyf i loesau anfelusol,
Ond pa'm beiaf rhagluninethol
Anorffennol ffyrdd
Dyma law 'madawiad,
A'r llall mi sychaf lygad;
Mae'r fen gerllaw, i'm cludo draw,--
Ofer--ofer siarad;
Yn iach bob dengar gwm a chlogwyn,--
Yn iach, yn iach, gyfeillion addfwyn. &c.
RHYDYCHEN.
AT GYFAILL.
_Athrofa'r Iesu, Rhydychen,
Rhagfyr 19, 1824_.
Gobeithio eich bod yn myned y'mlaen gyda Lladin. Ni wyddoch pa beth a
all esgor. Gallaf addaw y cewch fwy o bleser na thrafferth yn dysgu; a
gwn na byddai yn boen i'ch meddwl llym chwi dreiddio iddi ar amnaid. Mi
a ddatguddiaf i chwi fy amcan wrth eich cynghori fel hyn. Os gallwch,
trwy eich llafur eich hun, ymhyfforddi yn yr ieithoedd dysgedig,--os
addunedwch beidio croesi trothwy tafarn yn y Wyddgrug,--os peidiwch a
chyfeillachu a neb ond dynion parchus, a phrin a rhai'ny,--os byddwch
ddyfal yn eich sefyllfa,--os gyrrwch ambell i ddernyn i'r Eisteddfodau,
er mwyn tynnu sylw,--os ymddygwch bob amser yn syml, cyson, a
gostyngedig,--ac os, gyda hyn oll, y llwyddwch i dynnu cyfeillgarwch y
goreu o ddynion, Mr. Clough--meddyliwn na byddai yn anhawdd nac yn
dreulfawr i chwi gael trwydded yma. Y mae eich synwyr yn ormod i
adeiladu dim ar hyn, nac i yngan gair yn ei gylch i gyfaill eich mynwes.
Pa beth a all cardotyn fel fi ei addaw?
Byddai yn dda gennyf pe rhoddech ddiofryd cadarn na sangech ar lawr
unrhyw dafarndy yn y Wyddgrug byth. Y mae fy mynwes i yn gwaedu heddyw
gan y clwyfau a dderbyniais ynddynt. Ni welais gyfaill da o fewn eu
muriau erioed, ac ni welais un niweidiol iawn y tu allan. Ni wna
ymddygiad isel a buchedd rinweddus a duwiol eich amddifadu o unrhyw
bleser teilwng o'r enw: yn hytrach gwna i'ch cwpan redeg trosodd--addurna
chwi ger bron eich gwlad--a thywysa chwi at ffynnon a arllwys ei dwfr pan
y bydd Alyn, a Helicon hefyd, wedi sychu. Hyderaf na ddigiwch am yr
hyfder a gymerais. Gwiriaf i chwi iddynt ddylifo oddiar deimlad mor bur
ag a gurodd erioed ym mynwes tad. Gwn eich bod yn agored i lawer o
demtasiynau, y rhai a gynyddant po fwyaf y deloch i sylw y byd. Gwn,
hefyd, fod eich cysur amserol a thragwyddol yn ymddibynnu ar eu
gorchfygu. Gwyddoch chwithau fod rhan fawr o fy nghysur innau ynglyn
wrthych fel cyfaill fy ieuenctyd. Bellach, ai gormod im' am unwaith
ddringo Ebal? Do, fy nghyfaill, cefais i wybod trwy brofiad trist fod
deniadau cyfeddach yn llymach na saethau cawr, ac yn chwerwach na marwor
meryw. Mi syrthiais i ymhlith y lladdedigion. Tybiodd fy nghyfeillion
ddarfod am danaf byth, a gadawsent fi i'm tynged. Ond, trwy y moddion
rhyfeddaf, dywedodd y Gwr y rhyfelais yn ei erbyn, "yn dy waed bydd fyw."
Cefais yn barod lawer prawf o'i diriondeb; ac nid ydwyf yn cwbl
anobeithio cael, o radd i radd, fy nerbyn i'w fyddin ac i gludo ei faner.
Hyd yn hyn, y mae fy mriwiau yn rhwystro imi gydio mewn arf; ac yr ydwyf
yn treulio fy oes gan y mwyaf wrth odreu Sion; ac weithiau, wrth godi'm
llaw at ddail y pren sydd yn iachau'r cenhedloedd, dymunwn amneidio a'r
llall at fy nghyfeillion, i beri iddynt ochel y llannerch lle y
derbyniais i y saeth a lynodd yn fy nghalon.
COLLEGE LIFE
TO THE REV. C. B. CLOUGH, MOLD.
_Jesus College, Oxford,
December 16th, 1824_.
Upon the whole, I find College life far less irksome than I had
anticipated. The change, from the bosom of a family to a cloister, was
certainly not very pleasant. Yet upon that account I have less to regret
than many: my disposition or taste never quarrels with solitude. In one
instance I was rather unfortunate.--Of the three undergraduates I knew
upon my coming to College, one only was a 'reading man.' By means of the
other two, as my acquaintances increased, my room became in a little time
the daily resort of those most miserable and unprofitable of beings,
technically called '_loungers_.' This, of course, retarded my studies;
and I was often compelled to sit up, after the drones had gone away, till
four o'clock in the morning, to prepare my Lectures for the following
day. Hints were thrown away, upon my visitors, in vain. At last I saw
that either politeness or my character must be hazarded: the first was
sacrificed to preserve the last. I made a candid avowal of the low state
of my acquirements, and, that having so much to do, it would be madness
in me to trifle my days; but if they allowed me to fix a particular hour
each day, for receiving their calls, I should be most happy in seeing
them. They good-humouredly assented; and from seven o'clock in the
morning till eight was mentioned. I have my room to myself ever since;
and this has not made them less friendly. I have seen that an extensive
acquaintance is the bane of College life.
Of intimate friends, I have here only one; and he is a bosom friend, one
whose intelligence, urbanity, abilities, and piety are alike conspicuous.
He is a son of La Trobe, the celebrated African traveller. Unfortunately
for me, he intends taking his final examination next Easter term, and
will consequently leave Oxford. When he is gone, I will endeavour to
replace him with another of the same stamp; and if I fail, I will turn an
anchorite.
I have mixed with but very few parties; though, thanks to my
fellow-collegians, I have been occasionally invited. I have adopted this
course, partly from a wish of not incurring a debt, which it would be a
crime in one of my station to discharge; but chiefly from a distaste of
all nocturnal revels. The truth is, I never yet saw a drinking party,
two hours old, that I could lay down even one of Elis y Cowper's songs,
for the purpose of enjoying it.
The devotional exercises, morning and evening, are profitable and
interesting; and I have an opportunity every Sunday of hearing some of
the most eloquent and impressive sermons I have ever heard. Excellent
opportunities are also afforded for reading. I 'sport my oak' and sit
down, nothing disturbs or annoys me; and had it not been for the rumbling
of carts along Ship-lane, and cries of 'muffins,' I should consider
myself in a hermitage. As for temptation, it is all a bugbear. I have
seen none here that would not vanish before a virtuous resolution.
AT LENOR.
(MR. E. PARRY, CAERLLEON.)
_Athrofa'r Iesu, Rhydychen,
Chwefror 25ain, 1825_.
Y mae yn ddywenydd mawr genyf ddeall fod eich Cymdeithas yn gwellhau yn
ei hamcanion fel y mae ei gallu yn cynyddu. Hwyrach na lwyddwch i gael
cyd-ymdrechiad y Boneddion a enwasoch;--rhai o herwydd eu hoerfel at yr
achos Cymreig,--a llawer am fod rhannau eraill o'r wlad yn galw am eu
gwasanaeth yn fwy na Chaer, un ai o herwydd cymydogaeth, neu feddiannau.
Er hynny, pe na enillech ddim ond ymegniad gwresog ac unfryd trigolion
eich tref eich hunain, byddai yn werth eich trafferth, a gallwch wneuthur
gwyrthiau.
Y mae yr Iaith Gymraeg yn deilwng o'i choleddu, ac eneidiau Cymru yn
werth eu cadw. Chwi a gewch fy nymuniadau goreu i, os ydynt werth
rhywbeth, a phe byddai gennyf well, chwi a'i caech.
Buoch yn ddedwydd iawn gael Mr. Richards yn Gapelwr,--y mae'r gwr hwnnw
yn addurn i bob Cymdeithas lle byddo. Yr ydwyf agos yn eddigeddu y
pleser a gewch ar eich Cylchwyl, ac er hynny yn ewyllysio i chwi fil mwy.
Rhaid i mi gadw gwyliau Homer ddall yn lle Dewi Sant, ac aros fel mynach
yn fy nghell yn lle troedio'r heolydd i ddangos fy "nghenin," a gadael
i'm henaid lesmeirio wrth gyngan y delyn. Ond rhaid boddloni, ac yr
ydwyf yn foddlon ac yn ddiolchgar.
Yr oeddych yn ymholi pa fodd yr ydwyf yn byw yma.--Credwch fi,--mor syml
a diniwed a Meudwy, a mor ddedwydd a Thywysog. Cof am gartref a hen
gyfeillion sydd weithiau yn cynhyrfu hiraeth ynof am wlad fy
ngenedigaeth, a dyna'r unig ddefnyn chwerw sydd yn fy nghwpan. Y mae
penaethiaid yr Athrofa yn dirion i'r eithaf, a chyd-astudwyr mor
gyfeillgar ag y gallwn ddymuno.
Yr oeddwn wedi bwriadu englynion i chwi a math o awdl i'ch Cymdeithas;
ond hawdd i chwi feddwl nad oes gan un a ymunodd a'r Brifysgol y'mhen
pum' mis wedi cydio gyntaf mewn Ieithiadur nemawr amser i gysoddi dim. Pa
fodd bynnag, dyma ryw bethau yn llun englynion "Ar y ffolineb o wadu
Iaith gynhenid," a ddymunwn gyflwyno i'ch Cymdeithas a chwithau, i aros
gwell.
A wirionwyd ar unwaith--yr adyn
Pan redai i estroniaith,
I wadu'i wlad, gyda lediaith,
Gwawdio hon, a gwadu ei hiaith?
A yw'n gywilydd gan ei galon--iaith serch
Iaith su ei fam radlon?
Ddyddiau hir, mor dda oedd hon
I ynganu angenion?
Ai gwr yw a gar awen--heb arddel
Iaith beirddion disgywen?
Ai un am les hanes hen
Wrthoda chwaer iaith Eden?
Iaith oedd araeth i ddewrion,--wroniaid
Drwy enwog ymdrechion,
Tan eu heirf bloeddient yn hon
"Trowch i'r gad! tr'ewch ergydion!"
Ac onis dewis y dyn--y gyngan
Sydd rhwng cangau'r dyffryn?
A gwin i'w fant? ac ni fyn
Iaith hudoliaeth y delyn?
Onid yw iaith fyw mor fad--yn deilwng
O'n dilyth arddeliad?
Neb ond un gwrthun a'i gwad
Neu a ludd ei choleddiad.
Y mae doethaf gymdeithion--Cymroaidd,
Ac amryw o'r Saeson--
Y'Ngwalia mae angylion
Gyda'u heirf am gadw hon.
A cheir yn pleidio ei choron--euraidd
Iorwerth a'i gyfeillion,
A gwr mawr o gyrrau Mon
Yn Llywydd yn Nghaerlleon.
Mwy addas i was isel--a'i osgedd
Am esgyn yn uchel,
Garu ei iaith, a'r gwr wel
Werth ei hurdd wrth ei harddel.
O'i gwrthod, gwawd ac erthwch,--a'i dilyn
Hyd elor drwy dristwch;
Ni cha lin goruwch ei lwch,
O glod goreu gwladgarwch.
Boed gan Gymro ym mhob broydd--o'i brif-iaith
Bur fost yn lle c'wilydd,
Fel na ddel, tra y del dydd,
Lediaith ar ein haelwydydd.
TELYN CYMRU.
_Allan o Saesoneg Mrs. Hemans, i Gymdeithas Gymreigyddol
Rhuthyn, 1824_.
O delyn oesol! dyro eto gainc,
Fel pan ewynai'r hirlas yn y wledd;
Pan gurai bronnau gan wladgarol ainc,
Pan wlychid byrddau Owain gan y medd:
O Delyn! deffro 'ngrym yr oesoedd hen,
Adleisia'r bryn dy geinciau gyda gwen.
Dy dant ni's tyr--Rhufeinydd erchyll don
Ddaeth dros las ddyfroedd, gyda llawer rhwyf,
Enynai fflam trwy dderi sanctaidd Mon,
A gwnai gromlechau'n garnedd yn ei nwyf,
Rhoi lwch y creiriau gyd a'r gwynt a'r lli',
Delyn, rho gainc, nis gallai d'atal di.
Dy dant ni's torrir. Chwyfiodd baner Sais
Yn ddig ar awel flith Eryri gerth,
Uwch bloedd ei udgyrn, clywid swn dy lais,
Pan guchiai'i gestyll ar y clogwyn serth,
Cynhyrfai'th don y dewrion i fwy bri,
Eu llethri oedd ganddynt, bronnau rhydd, a thi
Oes ddu oedd hon; pan gwympai'r glew dirus,
Pan dyfai chwyn gylch bwrdd lle gwleddodd cant,
Pan lechai'r llwynog yn y drylliawg lys,
Oedd nerth i ti'r pryd hyn--dawn ym mhob tant,
Yn nyddiau hedd dy geinciau grymus gyr,
O Delyn ber! o'th dannau un ni's tyr.
AT EI RIENI.
_Athrofa'r Iesu, Rhydychen,
Chwefror, 11fed, 1826_.
ANWYL RIENI,
Yn lle esgus dros fod yn ddistaw cyhyd, rhoddaf i chwi hanes byr o'r modd
yr ydwyf yn byw. Wrth ymdrechu dyfod i fyny gyda y rhai a gawsant bob
mantais ysgolheigaidd ym moreu eu hoes, yr wyf yn gorfod bod yn ddiwyd
iawn wrth fy llyfrau. Nid ydyw treiddio i mewn i ieithoedd ond gorchwyl
sych a diffrwyth, ac i un yn fy sefyllfa i, o ran gwall cyfleusterau
boreuol, y mae yn waith digon caled. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, yr wyf
yn cael fod "darllen llawer yn flinder i'r cnawd." Nid ydyw caethiwo fy
hun i fyfyrdod wedi cael un effaith ddrwg ar fy iechyd eto. Aeth cyfaill
i mi, a ddarllenasai lawer llai na mi, adref ddoe wedi ei nychu gan ormod
o waith. Y mae fy nghorff yn gadarn wrth natur, ond yr wyf yn gorfod
cerdded allan rywfaint bob dydd, er mwyn ei gadw mewn trefn.
Bu holiad cyffredin yn ddiweddar ar holl aelodau ein Coleg ni. Aethum
drwyddo yn well nag yr oeddwn i na'm hathrawon yn disgwyl. O hyn i wyl
Mihangel nesaf, rhaid imi fyned drwy ffwrn boethach nag a brofais
eto,--cael fy holi ar gyhoedd o flaen yr holl Brif-ysgol, am fy
ngwybodaeth o'r Lladin a'r Roeg, a Rhesymeg. Rhaid i mi hefyd ddysgu
ysgrifeni Lladin mor rhwydd a Chymraeg. Yr wyf yn fynych yn crynu wrth
feddwl am y frawdle, yn enwedig wrth weled cynnifer a gawsant eu dwyn i
fyny yn yr ysgolion goreu o'u mebyd, yn colli'r dydd. Y mae fy mhwys yn
bennaf ar y Rhagluniaeth oruchel a fu mor dyner tuay ataf hyd yn hyn.
Y'mhellach, yr wyf yn yslyried mai fy nyledswydd ataf fy hun--at fy
nghynalwyr--ac at y plwyfolion a gaf ryw dro, hwyrach, o dan fy
ngofal--ydyw lloffa cymaint ag a allaf o wybodaeth am bob dysg a
chelfyddyd. Gwelodd y caredig Mr. Clough a Mr. Phillips fy awyddfryd am
bob hyfforddiad, a chymerasant fi gyda hwynt i wrando y darlithoedd a
draddodir gan ein prif ddysgedigion ar y celfyddydau breiniol. Y
diweddaf a glywais oedd yr enwog Ddoctor Buckland, areithydd ar natur y
ddaear, ei chreigydd a'i meteloedd. Pan ddeuaf adref gallaf roddi i chwi
rai newyddion am weithiau glo a phlwm. Hawdd i chwi weled fod y gofalon
a'r gorchwylion hyn yn difa fy holl amser, ac nid hyn yw y cwbl. Wrth
aneddu yn Nhrefaldwyn a Rhydychen, ffurfais gydnabyddiaeth a llawer o
foneddigion,--rhai o honynt, o ran dysg a dawn, ym mhlith y gwyr enwocaf
yn y deyrnas. Nid oes boreu braidd yn myned heibio nad wyf yn derbyn
llythyr o ryw gwr neu gilydd i'r wlad. Nid oes gennyf, gyda chwareu teg,
amser i ateb un o honynt; ac os bydd un gohebwr y gallaf hyderu ar ei
gyfeillgarwch i beidio digio wrthyf, yr wyf yn gadael iddo aros nes elo
fy helbul yn yr athrofa heibio. Fy mwriad yn myned dros yr holl bethau
hyn ydyw, i ddangos i chwi a'm hanwyl gyfeillion, Mr. Thomas Jones ac
Isaac, yr unig achos na ysgrifenais atoch oll lawer cyn hyn. Os gwelwch
ddim yn yr hyn a ddywedais, yn mynegi yr anrhydedd anisgwyliadwy a ddaeth
i'm rhan, gwybyddwch mai nid er mwyn cynhyrfu ymffrosl ynoch yr adroddais
ef; ond yn hytrach er eich annog i uno gyda mi mewn diolchgarwch i'r Duw
a fu mor dirion wrthyf. Bydd yn dda genych glywed fy mod i ac oddeutu
hanner dwsin o'm cyd-ysgolheigion wedi llwyddo i gael Cymdeithas Genadawl
fechan yn ein hathrofa. Yr ydym hefyd yn ymgyfarfod yn ystafelloedd ein
gilydd, yn olynol, ar nosau Sul, i ddarllen y Bibl a gweddio. Nos Sul
diweddaf yr oeddynt oll yn fy ystafell i: a phan byddo dadwrdd cyfeddach
yn taro ar ein clustiau o ystafelloedd eraill, gallwn ddweyd, "Rhoddaist
fwy llawenydd yn ein calon nag yr amser yr amlhaodd eu byd a'u gwin
hwynt."
Hyfryd iawn oedd genyf glywed am ymwared fy anwyl chwaer. Cofiwch fi ati
yn garedig, at fy mrawd, yr holl blant, ac yn enwedig at y ferch
ddieithr. Buasai dda genyf allu anfon anrheg iddi hi a'i mam, ond mae
hynny yn bresenol o fy nghyrraedd. Gadewch iddo--mae'r galon yn llawn,
os yw'r pwrs yn wag. Byddwch gystal a rhoddi y penhillion canlynol iddi
yn lle _Valentine_:
Henffych, ferch, i fyd o ofid,
Byd y dagrau, byd y groes:
Agoraist lygad ar yr adfyd,
Ti gei flinder os cei oes.
Mae gwlad well tu draw i'r afon,--
Nes cael glan ar oror iach,
Rhag pob drwg, y Duw sy'n Sion,
Fo'n dy noddi, Marged bach.
Mae'm dychymyg fel yn gwrando
P'un a glywaf mo dy sain,--
Gan holi'r awel sy'n mynd beibio,
A yw'th wyneb fel dy nain?
A oes eurwallt ar dy goryn?
A oes rhosyn ar dy rudd?
A pha dybiau sydd yn dirwyn
Drwy'th freuddwydion nos a dydd?
Pe bawn yna, anwyl faban,
Mi'th gofleidiwn gyda serch;
Ceit fy mendith am dy gusan,
Mi'th gyfrifwn fel fy merch:
Ac os try Rhaglumaeth olwyn
Fyth i'm dwyn i dir fy ngwlad,
Ti gei weled y gall rhywun
Garu ei nithoedd megis tad.
Yr wyf yn gyrru --- i Ruth: mae yn rhy fychan, ond y gwir yw hyn,--hyd
wyl Mihangel nesaf byddaf yn llwm iawn o arian; wedi hynny, caf dderbyn
swm ychwanegol yn y flwyddyn. Yna mi ofalaf am dalu eich rhent, eich tir
pytatws, a phesgi'r mochyn. Rhoddwch ddillad da am Ruth . . . Unwaith
eto, yr wyf yn eich tynghedu, na oddefwch eisiau dim. Gyda bendith, nid
oes perygl na allaf ei dalu yn ol ar ei ganfed. Pa beth ydyw gwaith fy
nhad? A ydyw'n esmwyth? Cofiwch fi yn garedig at deulu Broncoed, a
rhoddwch fy serch at fy hen gyfeillion oll . . . Mae amser a phapur wedi
pallu, y gloch yn taro pedwar yn y borau--a'r ganwyll yn llosgi i'r
ganwyllbren--ni chaf ond dywedyd fy mod yn aros,
Eich dyledog fab,
J. BLACKWELL.
CYWYDD Y GWAHAWDD:
A anfonwyd mewn llythyr o wnhoddiad Medi 6ed, 1826, oddiwrth Ifor Ceri,
at Wilym Aled a'i Gywely.
Eto, Aled, atolwg
Gad si'r dre', a mangre mwg;
Gad Saeson, gwawd, a sisial
Arian, a thincian, a thal;
Gad wbwb a gwau diball
Mammon i feibion y fall:
Rho i'th law,--pryd noswyliaw sydd,
Eleni un awr lonydd;
Gwamal i ti ogymaint
Hela myrdd, a holi maint
Ydyw gwerth yr indigo,
A ffwgws, heb ddiffygio,
Gan na cheir gennych hwyrach
Weled byth un Aled bach,
Na geneth, a drin geiniog
O dyrrau llawn dy aur llog.
O fewn llong tyrd tros gefn llwyd
Y _Mersey_, heb ddim arswyd,--
A'th gymar sydd werth gemau
Prysurwch, deuwch eich dau
I Geri, fan hawddgaraf,
Man gwar, lle mae hwya'r haf:
Mor loewlon y mae'r lili
A'r rhos yn eich aros chwi,
A phleth rydd yr adar fflwch,
Hyd awyr, pan y deuwch;
Cewch eich dau wenau uniawn
Ifor a Nest, fore a nawn:
(Yma diolch raid imi
"Amen dywed gyda mi,"
Ddwyn Ifor, gan Dduw nefol,
A'i wiw Nest, i Geri'n ol:)
At un Nest dda west, ddiwall,
Tyred a dy Nest arall;
Braint cyn bedd, cael medd a maeth
Maesaleg un mis helaeth;
Y mae sylwedd Maesaleg,
A'i dor, yn y Geri deg.
Y mae un gwr mwy nag oll,
Awch digoll uwch ei degan:
Ifor bach sydd a'i ferw byth,
Drwy gofio yn dragyfyth;
"Mae'r gwr yn mhryd mebyd mau,
Enynnodd hen awenau
Y glyn, nes oedd bryn a bro,
A gwig las, yn gogleisio;
Ai pell--ai trapell y trig--y gwiwddyn
Fynnai delyn a cherdd fy Nadolig?"
Tyrd Aled, ira d'olwyn,
A thyrd i ddoldir a thwyn;
Ac awyr lem Ceri lan,
Perarogl copa'r Aran;
Gwrandaw sibrwd y ffrwd ffraw--rhwng deilfur,
Y dwr eglur yn trydar wrth dreiglaw;
Rhodio i wrando'r ehedydd,
Dringo'r bryn ar derfyn dydd;
Hufen Nest a chan Ifor,
A dwr mad, drwy rad yr Ior,--
Wnant it' neidio a gwisgo gwen,
Deui'n foch-goch,--doi'n fachgen.
Gan Alun, gwan wehelyth,
O fwrdd i fwrdd, wael fardd fyth,--
Gwely nid oes, nac aelwyd,
Na bir i'w gynnyg, na bwyd,--
Cei law a chalon lawen,
A mwy ni cheisi, Amen.
DISADVANTAGES AND AIMS.
TO R. GARNONS,
_Jesus College, Oxford,
October 2nd, 1826_.
I can hardly hope, in four short years, to surmount the disadvantages of
my youth, and gain academical distinction. To him, who in his 20th year,
learnt his Greek alphabet, a first class at College must be a hopless
|