free book ebook online reading
eBook Title
Gwaith Alun
Author Language Character Set
Alun Welsh ISO-646-US


You are here --- [ Home / Author Index A / Alun / Gwaith Alun / Page #4 ]

Lle na ddel gwyll neu ddolef,--
Am urdd yn Nuw,--am ardd Nef,--
Gardd o oesol radol rin,
A'i haberoedd yn bur-win.

Rhufon, dan ofid rhyfawr,
Ni ddywedai--ofynnai fawr;
Danghosai' liw, nid gwiw gwad,
Loes erwin uwchlaw siarad;
O'r diwedd, 'nol hir dewi,
Ochenaid, a llygaid lli,
A'i ddagrau, fel rhaffau'n rhydd,
O'i lygaid yn wlawogydd,--
Tan grynnu'i fant yn graen, fo
Gwynai alaeth gan wylo,

"Enwogiawn, mi wn agos
Rhaid i 'null ar hyd y nos
Ddangos fod saeth gaeth, a gwg,
Drwy'r galon draw o'r golwg;
Y ngrudd gref, lle gwingodd graid,
Llychwinodd aml ochenaid;
Grym y groes, a dagrau'm gwraig,
Dyrr wen y diarynaig.
Mynegaf i'm henwogion
Hanes fy mriw--naws fy mron,
A'r achos o'm hir ochi,--
Yr oedd mab iraidd i mi;
Delw i'r holl ardaloedd,--
Eu tegwch a'u harddwch oedd;
'R oedd ei rwydd daclusrwydd clau,
A'i lun nerthol yn wyrthiau;
A gwen hoff lawen a fflwch,
Ireiddiwch ar ei ruddiau.

"Dau lygad ei dad ydoedd,
Un enaid a'i enaid oedd;
Rhyw adyn ei rwydo wnaeth
A'i swynion, i gamsyniaeth,--
Un tonnawg anghytunol
Droes allan, a phagan ffol;
Ac oerodd ei holl gariad
At wir Duw,--at eiriau'i dad;
Hynny fagodd genfigen,
Yr un dydd yn ei fron denn,--
Lle cadd hen genfigen faeth,
Ddylanwodd o elyniaeth,--
Ae'n greulon, anfoddlon fab,
Fu'n war anwyl ireiddfab;
Y diwedd oedd--gadodd ef
Mewn gwg,--huddwg ei haddef,
Gan addaw dod, diwrnod du,
A dialedd i'w deulu;
Gwauai y dwrn,--rhegai' dad,
O'm Duw! fath ymadawiad!
Er gwae im', rhwygai ymaith--
Na wyr ond Ion ran o'i daith;
Nis gallaf, dan drymaf dro,
Ond trist ruddfanu trosto.

"O'r diwrnod bu'r du ornwaith,
Ni chenais, ni cherddais chwaith,--
Picellau drwg ofnau gant,
Y fron wirion fraenarant:
Na welir hwn, wylo'r wyf,--
Ac wylo rhag ofn gwelwyf
Etifedd gwae! tyfodd gwyn
Diymarbed i'm herbyn;
Funud ni phrisiaf einioes,--
Aeth yn faich holl ddwthwn f'oes!
O Angeu! torra f'ingedd,
'Rwy'n barod, barod, i'm bedd."

Eto y toddai natur
Yn ddagrau fel perlau pur;
Delwai, mudanai'r dynion,
Gyda'u brawd gwaedai eu bron;
Pwyntient fys at lys hael Ion--
Lle o allu ellyllon.

Synnent, ac edrychent dro,
Eilwaith cymysgent wylo:
Addysgid y ddau esgob
Felly'n null cyfeillion Iob;
I ganfod fod llym gwynfawr
Bwysau ei ofidiau'n fawr.

_Y Gynulleidfa_.

Ar hyn d'ai gwas addas wedd,
Mynegai mewn mwyn agwedd,
Fod nifer, yr amser hyn,
Ar ddolau iraidd Alun;
A'u disgwyliad dwys gwiwlon
Am glywed clau eiriau'r Ion.

Sychu oedd raid y llygaid llaith,
O fwriad at lafurwaith:
O'r deildy tua'r doldir
Yr elent hwy trwy lawnt hir;
A gwelent war, liwgar lu,
Yn gannoedd yno'n gwenu.
O ddisgwyl y ddau esgawb,
A gwyneb pur gwenai pawb,
O oedran diniweidrwydd,
Y'mlaen, hyd i saith-deg mlwydd;
Rhai ieuainc, mewn chwidr awydd
Yn chwarau ar geinciau gwydd;
Arafaidd d'ai'r gwyryfon,
Yn weddaidd, llariaidd a llon;
Oeswyr, a phwys ar eu ffyn,
Hulient dorlennydd Alun;
Doethaidd eu dull i'r dwthwn,
Eistedd wnai'r gwragedd yn grwn;
Pob mam lan a'i baban bach,
Ryw hoenus,--a rhai henach,
A geisient gael eu gosod
Dan sancteiddiol nefol nod;
'Nawr mewn trefn, tu cefn i'r cylch,
Gan ymgau'n gain o amgylch,
Y deuai holl wrandawyr
Y graslon enwogion wyr.

Ar ddeulin yr addolynt
Yr Oen hoeliwyd, gablwyd gynt;
A Bleiddan, drwy fwynlan fodd,
Ar Dduw a hir weddiodd;
Eiddunodd newydd anian,
A mawr les, i Gymru lan;
I beri hedd, nes byrhau
Ochain hon a'i chynhennau,--
A throi i'r wir athrawiaeth
Rai'n ol, ar gyfeiliorn aeth;

Ac yna, na cha'i Morganiaeth,--na gwenwyn
O geuneint Derwyddiaeth,
Fwrw'u dilyf ar dalaeth,
Yn hwy'n lle manna a llaeth.

Bedyddio wnaent--(byd dd'ai'n wyn)
Wyr mewn oed,--rhai man wedyn;
Yna'r sant 'nol gweini'r swydd
Ystyriol--mewn distawrwydd,
Yn ei wisgoedd wnai esgyn
I ochr llethrawg, frithawg fryn;
Ac eurmyg lleuai Garmon,
A'i dafod aur, eiriau'r Ion;
Gwrthbrofi, dynodi wnaeth
Amryw gynneiddf Morganiaeth;
Mor ffraeth ei araeth euraidd,--
Enaid a grym hyd y gwraidd;
Y llu ddaeth i gablu gwyr,
Hwy ddeuent yn weddiwyr:
Trwy'r gair llym y troir gerllaw
Annuwiolion i wylaw;
Pan felltenai Sinai serth
I gydwybod,--gwaed aberth
Wna'i fellten a fa'i wylltaf
Ddiffodd, yn hedd ffydd yn Naf;
Agorai wefus gwrel,
A'i fant a ddyferai fel;
Drwy lawn gainc, darluniai gur
Tad a Cheidwad pechadur,--
Yr iawn a ro'es, drwy loes lem,
Croeshoeliad Oen Caersalem;
Ban dug, trwy boenau dygyn,
Fodd i Dduw faddeu i ddyn;--
Ei araeth gref am wyrth gras
Wnai un oer bron yn eirias.

_Dychryn y ffoaduriaid_.

Ynghanol y dduwiol ddysg,
Clywid cynnwrf, twrf terfysg;
Llefau galar gyda'r gwynt,
Sitwyr yn neshau atynt!
Ar hyn, dyna ofngar haid
O derydd ffoaduriaid,--
Lu gwael o liw--ac ael wleb,
A gwannaidd oedd pob gwyneb:
"Daeth," dyhenent d'wedent hwy,
"Awr hyf warth a rhyferthwy;
Mae Saison, anunion wyr,
A brathawg lu y Brithwyr,
A'u miloedd dros dir Maelawr,--
Gwelsom fin y fyddin fawr!
Temlau a thai llosgai'r llu--
Nen a magwyr sy'n mygu;
Ha! erlidiant ar ledol
Y rhai ddaeth yn awr i'r ddol;
Clywch don anhirion eu nad,
Ffown, ffown! am amddiffyniad."

Y gair, fel loes gwefrawl, a
Darfodd pob rhan o'r dyrfa;
A chwerw nod dychryniadau
Oedd yn eu gwedd hwy yn gwau;
Mewn ofnawl, ddidawl ddadwrdd,
Mynnent ymroi, ffoi i ffwrdd;
Ond Rhufon, drwy fwynlon fodd,
Un teilwng, a'u hataliodd--
Nad oedd y fyddin, erwin hynt,
Eto yn agos atynt:
Enynnodd aidd hen anian
Y milwr dewr, mal ar dan.

_Milwr a Sant_.

"Rhyfel!" dolefai Rhufon,
Ag araul fryd gwrol fron,
"Heddyw fy hen gleddyf hir,
I ddwyn aeth a ddyncethir;
Gwnaf wyrthiau trwy gnif erthwch--
Gwnaf weld eu llu'n llyfu'r llwch;
Codwn, arfogwn fagad
O wrol wych wyr y wlad;
A'm milwyr a'u hymwelant,
Pob gwr fydd gonc'rwr ar gant;
Wyf Rufon, er f'oer ofid,
A ddeil arf drwy dduwiol lid;
Terwyniant ein tariannau
Ni ddeil bron y galon gau;
Heno o'u balch lu, ni bydd
Un i leidio'n haelwydydd;
Trwy ryfel dihefelydd,
Ac enw Duw,--cawn y dydd!
Y'mlaen! pur yw'n hantur hon!"
"Arafa, danbaid Rufon!"
Eb Garmon,--"Er pob gormes
Yn fur prawf, yn farrau pres,
Mae telid gadernid Ion
Is awyr o gylch Seion;
Ei phen a'i hamddiffynydd
Yw'r Duw sy'n Greawdwr dydd;
Ein hiawn bwys yn hyn, O bid
Ar Dduw a'i wir addewid;
A Duw a'n cyfyd ni, cofiwn,
Y diwedd o'r hadledd hwn;
"Y Duw a barai fod aberoedd
O sawr diliau, mewn cras ardaloedd,
I gynnal ei blant gannoedd,--a dwfr fal
Gwawr y grisial o graig yr oesoedd,
Ac a lywiai Iago a'i luoedd
Mawr a difraw, rhwng muriau dyfroedd,--
A Pharaoh a'i anhoff yrroedd--wnai gau
O fewn dorau y gorddyfnderoedd;
Y Duw hwnnw gyfyd hinon
Awyr dawel, o oriau duon,
Dilai gwared ei deulu gwirion
Rhag galanas a rhwyg gelynion;
Y Duw fu'n blaid Gedeon, rwystra i yrr
Yr un o'r Brithwyr wanu'r Brython."

Trwy galon Rhufon yr aeth
Cywir donau crediniaeth;
Distawodd, lleddfodd y llu,
Eu gwelw wawr a'u galaru;
Heb ddal ynni, boddlonynt
I weision Ior hwylio'r hynt.

Hwy roddent gyfarwyddyd
Am hwyl y gorchwyl i gyd.

Ag ysgafn droed i goed gwydd,
Encilient dan y celydd;
Rhufon hoff, er mwyn cloff, claf,
Anwylaidd, safai'n olaf;
A thawel gynorthwyai
Y gweinion efryddion rai.

Yn ol dod dan gysgod gwig
I gyd, ar lawr y goedwig,
Plygent lin, ac a min mel
Yn ddwys mewn gweddi isel:
Yn ysbaid hyn, os bai twrf,
Ochenaid lesg, a chynnwrf,--
Codai Garmon lon ei law,
Agwedd Ust! ac oedd ddistaw.

Er gwersi, er gweddi'r gwyr,
Er teg osteg, ac ystyr,--
Gwael agwedd y golygon
Ddwedai fraw y ddiwad fron.

Ar hyn, dyna'n syn neshau
Athrist dwrf, a thrwst arfau;
Lwyrnych estronawl oernad,
Croch gri, a gwaeddi,--"I'r gad";--
Yr waedd oedd yn arwyddaw
Fod galon llymion gerllaw:

Yna y treigl swn eu traed,
Yn frau o fewn cyrrau'r coed,--
Lleng a'u gwich am ollwng gwaed
Gwyr o ryw hawddgara 'rioed.

Adeg alarus ydoedd,
Ac awr heb ei thebyg oedd;
Awr gerth, na ddileir o go',
Ac awr calonnau'n curo;
Y goch ffriw aeth a'i lliw'n llwyd,
Dewr wedd ae'n orsedd arswyd.

Trwy'r ddol y gelynol lu,
Groch anwar, wnai grechwenu,
Er dannod gwarth Prydeinwyr,--
(Rhy fuan gogan y gwyr.)

Gan ymnerth, ac un amnaid,
Yn llu yn awr, oll 'e naid
Y Brython,--yn llon eu llef,
Unllais, ac adlais cydlef,
Germain oedd, rho'i Garmon air,
Addasol ei ddewisair,--

_Haleluia! Haleluia_! lawen,
Ar y gair, ebrwydd y rhwygai'r wybren,
Creigiau,--a chwedi pob crug a choeden
Yn y dyspeidiad oedd yn d'aspeden;
A'r engyl yn yr angen--yn uno,--
A gawriai yno holl gor y wiw-nen.

Chwai hyrddiwyd galon chwerw-ddull,
Dychrynnent, ffoent mewn ffull.

"Frithwyr ffel! beth yw'r helynt?
Dewch i gad,--ymffrostiech gynt!
Hai! ffwrdd! codwch waewffyn,
Hwi'n golofn,--dacw'n gelyn!
Ymrestrwch,--troediwch mewn trefn,
Och! enrhaith! beth yw'ch anrhefn?"

Unwaith ni wrendy'r annuw,
I'w dilyn mae dychryn Duw;
Eu heirf serth, yn y twrf sydd,
Wana galon eu gilydd;--
Astalch i astalch estyn,
A chledd sydd yng ngledd y'nglyn.

Clywai Alun destun da,
Alawon Haleluia;
A chiliodd dros ei cheulan,--
Hi droes lif ar draws y lan;
A mynnent hwy, er maint hon,
Yn eu braw, rwyfaw'r afon:
I dawch Alun dychwelynt,--
Aeth hon fel y Gison gynt:
A mawr dwrdd--ym merw'r donn,
Cell agerdd cylla eigion:
Gwenodd Alun, gwyn ddiluw,
Gael yno dorf galon Duw;
Llafuriodd y llifeiriaint,
Gyda si, i gadw y saint;
Sugnai'r llyn y gelyn gau,
Gwingodd dan grafanc Angau.

O foreu dwl, ar fyrr daeth
Gwawr deg o waredigaeth;
'Nawr gwelai'r Cymry'r galon,
Yn soddi is dyli'r donn;
Gan wau yn dyrrau dirif,
A swn eu llais yn y llif;
Llifeiriant a i holl farrau,
Tonnau certh, arnynt yn cau:--
Nodent nad oedd mewn adwy,
Glan, na maes, un gelyn mwy;
Prin coelient--safent yn syn--
Ddolef eu ciaidd elyn.

Dyferai eu clodforedd,
Drwy'r glynnau yn hymnau hedd;
Ac yn eu plith canai plant,
Swn melus atsain moliant.

Yna'r saint mewn eres hwyl
A anerchent,--iawn orchwyl--
Araf lef i'r dyrfa lan,
Dorrent ollyngdawd eirian.

"Ein Ner, mewn blinder, fu'n blaid
I'w war union wirioniaid;
Duw'n y blwng wrandawai'n bloedd,--
Boddai yna'r byddinoedd.

"Eurawg olwynion hen Ragluniaeth,
Barai'r dolydd, y wybr a'r dalaeth,
I wyrthiol adsain germain gaeth,--Alun
Foddai y gelyn,--caem fuddugoliaeth.

"Duw Ner roes yr hoewder hwn,
I'n Duw eilchwaith diolchwn;
Llawforwyn fu'r llifeiriant,
Gyda bloedd i gadw ei blant.

"Iolwn na byddo'i wiwlwys--ogoned,
Ac enaint Paradwys,
Gilio oddiar Gwalia ddwys,
Na'u aroglau o'r Eglwys.

"Duw'r hedd fo'n eich harwedd chwi,
Drwy genedl lawn drygioni;
A chwedi oes heb loes lem,
Noswyliaw boch yn Salem."

Hwy wahanent ar hynny,
Heb wybod ofn,--bawb i'w dy;
A'r lleddf ddau genadwr llon
Draw hefyd i dy Rhufon.

Ac ar hwyl deg, yr ail dydd,
Dwyreent mewn dir awydd,
I rodio i lawr at ffrwd las,
Glennydd lle bu galanas:
'Nawr aber, fel arferol,
Ydoedd hi ar hyd y ddol;
Ciliai'r dylif, clwy'r dylaith,
A'i dwrf oll, pan darfu'i waith;
Dai'r ardal yn dir irdeg,
Lle berwai tonn, ddai'n llwybr teg:
Gwelent hwy, wrth geulan tonn,
Gelanedd eu gelynion;
Yn dyrrau, 'n rhesau di ri,
O'r Belan hyd i'r Beili.

Gwelai Rhufon dirionwawr,
Ar hyn, ryw lencyn ar lawr.
Ei ddull, ei wedd, a'i ddillad,
A'i lun, oedd fel un o'r wlad.
Craffai arnaw--draw fe drodd,
A lliw egwan llewygodd;
Oherwydd y tramgwydd trwm
A ddyrysodd ei reswm;
Drwy'i galon a'i dirgeloedd,
Safai bar,--can's ei fab oedd;
Ei deulu o'i ddeutu ddaeth,
Gan weled ei ddygn alaeth;
Rhoent uwch ei fab, drygfab,--dro
Eu ced olaf,--cyd-wylo;
Uchel oernych alarnad
Wrth ei ddwyn fry i dy i dad:
(Gwyddent mai dilyn geu-dduw,
A dal dig, a gadael Duw,--
Trwy lithiol rai ffol, di-ffydd,
Wnai ei ddwyn i'w ddienydd!)

Hwy ddeallent, modd hollol,
A ddwedai, 'nawr, am ddod'n ol,
Ryw ddiwrnod, a dyrnod du
Dialedd ar ei deulu.

Iddo fe gwnaed angladd fawr,
Hir wylwyd ar ei elawr:
(Mae natur bur ei bwriad
A maith ddeddf mewn mam a thad;)
Er brad, er braenaru bron
Ei rieni, rai union,--
Eto wylodd y teulu,
Am y mab, fel cynfab cu;
Ni pheidient am anffodion
A thranc gwas ieuanc, a son;
Ac a pharch gwnaent er cofthau,
Hel peraidd, lwysaidd lysiau;
Hel mwysion freila maesydd,
Hel blodau ar gangau'r gwydd;
Hel mawr ar lili mirain,
Hel y rhos ar ol y rhain;
Hel llawryf digoll irwedd,
Hela'r bawm i hulio'r bedd:
A dagrau rhwydd, sicrwydd serch,
Mwydent, llenwent y llannerch.

Garmon, er cof mwynlon mad,
Gweddus, o'r holl ddigwyddiad,
O fewn y tir roes faen teg,
A geiriau ar y garreg;--

"Daw hinon, er llid annuw,
I'r dyn doeth a gredo'n Duw;
A dylaeth, barn, a dolef,
I'r adyn fo'n erbyn Nef."



ABERIW.


AT MR. E. PARRY.

_Berriew, Chwef_. 10, 1824.

ANWYL GYFAILL,

Mae ymdeithydd yn myned heibio i Lerpwl, a rhesymol i mi achub y
cyfleustra i ysgrifenu at un a brofodd ei gyfeiligarwch drwy amryfal
dirionderau.  Chwi a welwch wrth ddyddiad y llythyr fy mod yn mhell o
fangre fy mam.  Daethum yma y 30ain o'r mis diweddaf, a chefais Mr.
Richards a'r holl deulu yn foneddigaidd, tirion, a charedig.  Mae yma dri
o wyr ieuainc yn cael eu parotoi i'r Brif Ysgol,--ni welais dri erioed
mor wahanol eu hansawdd a'u tymherau i'w gilydd; ond trefnodd y
Rhagluniaeth y cefais fy mwrw arni o'r bru, a'r hon a drefnodd fy
ngherddediad hyd yma, iddynt fy nerbyn gyfeillgarwch agos yr wythnos
gyntaf o'm hainfodiad yn eu plith.  Fel hyn, y mae'r coelbren wedi
syrthio i mi mewn lle hyfryd o ran teulu i gyfaneddu yn eu plith, ac am
gyfeillgarwch sydd fel olew i olwynion fy natur, gallaf ddywedyd "dyma
etifeddiaeth deg."  Pe byddai lle yn y byd a barai i mi anghofio yr
aelwyd y dysgais ymgropian hyd-ddi gyntaf--y llanerchau a fuont olygfeydd
fy chwareuyddiaethau plentynaidd,--neu i laesu fy hiraeth am gyfeillion
lliosog a hawddgar,--ac yn bennaf oll am fy nhirionaf dad a mam, dyma'r
fan debycaf oll.  Ond nid hawdd datod rhwymau a gydiwyd gan serch, ac a
gysegrwyd gan ffyddlondeb.  Felly rhaid addef yr hyn y byddai yn ffolineb
ei wadu--fod fy meddwl yn ehedfan yn fynych ar adenydd dychymyg o lannau
Hafren i ochrau Alun, Clwyd, Dyfrdwy, a Mersey, lle y profais
gyfeillgarwch oedd yn fel i'm genau ac yn iechyd i'm hesgyrn.  Os gwelwch
chwi neb o'r hen fechgyn a ymffrostiant fod eu henwau y'nghoflyfr
Gwalia,--dywedwch fy mod yn cofio atynt ac yn dymuno yn dda iddynt.

Am danaf fi, er yn rhy isel mewn sefyllfa i allu gorchymyn, ac yn rhy
wael mewn dawn i allu teilyngu sylw, eto fy ymdrech pennaf hyd angeu
(ni'm cyhuddir o ymffrost wrth wnenthur y broffes) fy ymdrech, yn nesaf i
foddloni fy Nghreawdwr, a meithrin cydwybod dawel, a fydd trefnu fy
ngherddediad fel na wnelo fy ngwlad wrido o'm harddel.



IFOR CERI.


TO THE REV. C. B. CLOUGH, MOLD.

_Berriew, March 1st, 1824_.

REV. AND DEAR SIR,

In Mr. Richards, my expectations have been more than realised; and I
cannot sufficiently express my thanks to the Committee for selecting such
a person to be my tutor.  His kind solicitude for my domestic comforts,
is as unremitting as his attention to my advancement in literary
pursuits.  His religion is so far removed from wild enthusiasm as it is
from cold and affected formality.  The chaste and pious manner in which
he offers up the family devotions, with his Christian precepts and
example, have made so deep an impression upon my mind, as will prove, I
trust, to my spiritual advantage.



EMYN PASG.


Wele'r Ceidwad gaed yn Meth'lem
Acw'n marw dan ei loes,
A gwyryfon tyner Salem
'N gwlychu a dagrau droed ei groes:
Caua'r haul ei lygaid llachar
Rhag gweld clwyfo'r Sanct ei hun;
Ei ruddfanau sigla'r ddaear,
Cryna pob peth ond y dyn.
Deuwch saint, gollyngwch ddagrau
Uwch trychineb Calfari,
Dros yr hwn a roes ochneidiau
Dan y baich haeddasoch chwi;
Drosoch hidlodd ddafnau heilltion
Is arteithiau gwg y nen,
Nid o ddwfr, ond gwaed ei galon,
Yna trengodd ar y pren.

Dyma dristwch heb ei debyg,
Gras a chariad pur y'nglyn,
Duw'r gogoniant dan y dirmyg,
Ac yn marw i brynu dyn:
Ond wele achos llawenychu!
Testun can dragwyddel fydd,--
Iesu'r Ceidwad sy'n dadebru
'N gynnar ar y trydydd dydd.

Gwelwch fel mae'n concro angau!
Syllwch ar ei ddwyfol wedd!
Grym ei fraich, a gair ei enau,
Sydd yn dryllio bolltau'r bedd:
Llengau'r nef, anrhaethol nifer,
A'i gwarchodant tua'i wlad--
Rhwygai cerddi yr ehangder,
Cerddi croeso i lys ei Dad.

Bellach, saint, eich dagrau sychwch,
T'rewch y gu dragwyddol gan,
C'weiriwch eich telynau, cenwch
Wyrthiau eich Gwaredwr glan:
Dwedwch iddo fathru'r gelyn,
'Speilio lluoedd certh di ri',
T'wyso angau du mewn cadwyn,
A chysegru'r bedd i chwi.

Bloeddiwch, 'Ryfedd Frenin Sion,
Doed y ddaear dan dy iau!
Ganwyd ti'n Waredydd dynion,
Wyt yn gadarn i iachau.'
Gofynnwch wedyn i'r anghenfil,
'Ple mae'th golyn oer yn awr?
Fedd ymffrostgar, ddu dy grombil,
P'le mae'th fuddugoliaeth fawr?'



ENGLYN I ANNERCH MISS COTTON, OFYDDES.


_Eisteddfod y Trallwm, 1824_.

Gwalia lwyd lonwyd eleni,--Awen
Flodeua fel lili;
Bron bun yw ei gardd hardd hi,--
Hil anwyl hael Lyweni.



"A PHA LE Y MAE."  Job xiv. 10.


"Ya le y mae! ow gwae! ai gwir?
Nad yn ei dir, o dan y dail
A eiliai gynt drwy helyg ir?--
Nid uwch ei fir--gan d'wchu ei fail;--
Ni wela wych olygfa'r waen,
Ni swnia'i droed yn nawnsiau'r dref,
Gwych yw'r olygfa fel o'r blaen,
A dawnsia myrdd, _ond ple mae ef_?

Ei ddiddan Elia ddyddiau'n ol
Dywysai i'r ddol ar hwyrol hynt;
Wrth ochrau'r llyn o'r dyffryn dardd
A gwaelod gardd fe'i gwelwyd gynt;
Is gwe o fill ni wasga'r fun,
(Ei ardd a wnaeth fel gerddi nef
Ag urdd o ros).  Mae'r gerddi'r un,
Ac Elia'r un--_P le gwelir ef_?

Fel nablau'r cor rhoe'i gerddor gan,
O'i deithi glan, nid aeth yn gloff;
Rhaiadrau, llynnau, gwyrthiau gant,
Oddeutu ei nant sydd eto'n hoff
O'i dy--mur hwn nid yw mor hardd;
Adwyau geir ar hyd ei gae,
A gwywa'n rhes eginau'r ardd,
Ymhola mill--_Y mh'le mae ef_?

Mae beddfan newydd yn y Llan,
Yr aelwyd ddengys gadair wag;
Ac wrth y bedd, a'r wedd yn wan
Doluriau serch rhyw ferch a fag;
A'r ddol, lle bu yn gadu'r gwynt,
Ni wela'i lun, ni chlywa'i lef,
Bonllefau rhai a garai gynt,
Pa le maent hwy?  _Pa le mae ef_?



GWAHODDEDIGION EISTEDDFOD TRALLWM, 1824.


_Englynion difyfyr i'r Arglwyddes Clive a'i phlant_.

Enynnwn i uniawn annerch--talaeth,
Am roi telaid eurferch
Montrose, mewn rhwymyn traserch
I Bowys hen--man gwib serch.

Yr ysgeill yn ol hir wasgar--can-oes
I'r cenin sy'n gymar;
Tan wen cyd-dyfant yn war
Eu deuodd yn fri daear.

Mwy yn yr hil, y mae'n rhaid--y rhennir
Holl rinwedd y ddwy-blaid;
Trwy eu bron, yn hylon, naid
Hen nwyfau eu hynafiaid.

Os daw rhyw haid, i rwystro hedd--ein tir,--
Nes troi ein tai'n garnedd,
Yn y ddiras gynddaredd,
Hil Clive fydd yn dal y cledd.

Ond i hedd a dyhuddiant,--i godi
Dysgeidiaeth, tueddant,
Awenyddion a noddant,
Eu hiaith hen, a cherdd, a thant.

Trwy'u diwrnod tyrred arnynt--bob undeb
A bendith--llwydd iddynt;
Anwylaidd gynnal wnelynt
Dud a gwaed hen dadau gynt.



CAROLINE.


_Llinellau ar farwolaeth Miss Hughes, merch y
    
<<Page 3   |   Page 4   |   Page 5>>
Go to Page Index for Gwaith Alun

You are here --- [ Home / Author Index A / Alun / Gwaith Alun / Page #4 ]