free book ebook online reading
eBook Title
Gwaith Alun
Author Language Character Set
Alun Welsh ISO-646-US


You are here --- [ Home / Author Index A / Alun / Gwaith Alun / Page #3 ]

A mynnir, gwn, o'th meini
Gelfyddyd byd heb oedi;
Y dynion a adweini,
Yn rhediad eu mawrhydi,
Yn eil-oes, gwnn, a weli;
Eu cerf-ddelwau, lluniau llawn,
Fodd uniawn, a feddieni.

Llwydd, llwydd, a dawn rwydd, dan ryddid--eto
Iti a chalondid:
Yn y byd hwn, na boed tid
Dan nefoedd yn dynn ofid.

Ond aed (ac O! nad oeded)--lywodraeth
Ddi-ledryw gwlad Alffred,
A'i moliant i ymweled
A thir y Gryw, a thrwy Gred.

Y Rhyddid sydd gyd-raddawl,--oll hydrefn
A llywodraeth wladawl,
Sydd dda;--a chyd-gerdda gwawl
Gair yr Iesu, gwir rasawl.

A llwydd Dduw iddi, a lleoedd heddwch,
Gyrred allan o'i gaerau dywyllwch:
I ni y mae digon yma o degwch
Gael in', a'i hurddas, Gwalia'n ei harddwch;
Nes troi'n glynnau'n fflamau fflwch,--a'n creigiau,
Llonned ei dyddiau'n llen a dedwyddwch.



HAWDDAMOR.


Englynion ar agoriad Eisteddfod Caerwys, 1823.

Nawddamor bob gradd yma,--orwych feirdd,
Rhowch fyrddau 'ni wledda;
Lluman arfoll Minerfa
Sydd uwch Caerwys ddilys dda.

Bu Caerwys, er pob corwynt--a 'sgydwai
Weis cedyrn eu tremynt,--
Er braw, anhylaw helynt,
Nyth y gain farddoniaeth gynt.

Troi o hyd mae byd heb oedi--a'n isel,
Mewn oesoedd, brif drefi;
Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi,
Awr i Gaerwys ragori.

[Caerwys.  "Er braw, anhylaw helynt,
Nyth y gain farddoniaeth gynt.": alun40.jpg]

[Un O Heolydd Caerwys.  "Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi,
Awr i Gaerwys ragori.": alun56.jpg]



DAFYDD IONAWR.


Englyn o fawl i'r Bardd clodwiw am ei ymdrechiadau haeddbarch i ddiddyfnu
yr Awen oddiwrth ffiloreg a sothach, a'i chysegru i wasanaeth rhinwedd a
duwioldeb.

Yr Awen burwen gadd barch,--unionwyd
Gan IONAWR o'i hamharch;
Hefelydd i glaf alarch
A'i mawl yw yn ymyl arch.



GWYL DDEWI.


Penhillion a ddatganwyd yn Nghymdeithas Gymroaidd Rhuthyn, Gwyl Ddewi,
1823.

Ton,--"_Ar hyd y Nos_."

Trystio arfau tros y terfyn,
Corn yn deffro cawri y dyffryn,--
Tanio celloedd--gwaed yn colli,
Yn mro Rhuthyn gynt fu'n peri
I'r ael dduo ar Wyl Ddewi,
Ar hyd y nos.

Heddyw darfu ystryw estron,
Ellyll hwyr, a chyllill hirion;
Saeson fu'n elynion inni,
Heno gwisgant genin gwisgi--
Law-law'n dawel Wyl ein Dewi,
Ar hyd y nos.

Clywch trwy Gymru'r beraidd gyngan
Rhwygo awyr a goroian--
Swn telynau--adsain llethri--
O Blumlumon i Eryri--
Gwalia ddywed--'Daeth Gwyl Ddewi,'
Ar hyd y wlad.

Felly ninnau rhoddwn fonllef
Peraidd lais ac adlais cydlef;
Rhaid i'r galon wirion oeri
Cyn'r anghofiwn wlad ein geni,
Na gwledd Awen bob Gwyl Ddewi,
Ar hyd y wlad.



EISTEDDFOD Y WYDDGRUG.


AT MR. E. PARRY, CAERLLEON.

_Wyddgrug, Awst 16eg, 1823_.

Goroian! goroian!  Mr. Parry anwyl.  Bydd Callestr yn enwocaf o'r
enwogion eto.  Yr ydwyf newydd ddychwelyd o ystafell y dirprwywyr yn y
Leeswood Arms, lle y cydsyniodd y gwladgarol Syr Edward Llwyd i gymeryd y
gadair yn ein Heisteddfod; a rhoddodd 5l. at ddwyn y draul.  Gosododd
y mater o flaen yr uchel-reithwyr (_grand jury_) am y Sir, a
thanysgrifiodd pob un o honynt bunt, gydag addaw ei noddi.  Taflodd yr
Uchel-sirydd ei deir-punt at y draul, gan addunedu, er mai Sais oedd, y
byddai iddo noddi athrylith gwlad ei henafiaid hyd angeu.  Dyma ddechreu
yn iawn onide! Bellach, fy nghyfaill, ni raid i chwi wrido wrth son am
eich sir gynhennid.  Mae tan yn y gallestr, ac wedi ei tharaw o dde, hi a
wna holl Gymru "yn brydferth goelcerth i gyd."  Gosododd Callestr yr
engraifft i holl siroedd eraill Cymru, trwy gymeryd y peth yn orchwyl y
sir, yn y cyfarfod uchaf sydd ganddi.

Nid oeddym ar y cyntaf yn meddwl ond am un bunt yn wobrau am y
cyfansoddiadau goreu; maent yn awr wedi eu codi i bump, a disgwylir pan y
cyferfydd y dirprwywyr nesaf y gellir eu hychwanegu eto.  Dyna'r pryd y
llwyr benderfynir ar y testynau, yr amser, y barnwyr, a'r gwobrau; a
byddaf yn sicr o anfon rhai o'r hysbysiadau argraffedig yn gyntaf oll i
fy nghyfaill caredig a gwresog o Gaer, heb ddymuno mwy na'i weled yn
ymgeisiwr llwyddianus.

Mi a glywais fod Mrs. Parry a'i mab yn iach galonnog.--Dyma i chwi
ychydig rigwm a gysoddais wythnos neu ddwy yn ol, ar destun a mesur can
ragorach y doniol Erfyl.  Chwi a welwch wrthi mai amcan at annerch y "gwr
ieuanc dieithr" ydyw, fel pe buaswn wyddfodol.

Henffych, amhrisiadwy drysor,
Blaenffrwyth y serchiadau mad;
Ni fedd natur bleser rhagor
Na theimladau mam a thad.

Wrth olygu'th wyneb siriol,
Gaiff dieithr godi ei lef,
'Mhell uwchlaw syniadau bydol--
Erfyn it' fendithion Nef?

Nid am gyfoeth, clod, na glendid
Caiff fy nymuniadau fod;
Dylai deiliaid tragwyddolfyd
Gyrchu at amgenach nod.

Boed i'th rudd sy'n awr a'i gogwydd
At y bur dyneraidd fron,
Ddangos oedran diniweidrwydd,--
Gwisged bob lledneisrwydd llon.

Dy wefus sydd wrth ei chusanu
'N ail i rosyn teg ei liw,--
Boed i hon yn ieuanc ddysgu
Deisyf am fendithion Duw.

Na wna achos wylo defnyn
O'r llygaid 'nawr mewn cwsg sy'n cloi,
Ond i dlodi dyro ddeigryn
Os na feddi fwy i'w roi.

Dy ddwy law, sy'n awr mor dyner,
Na bo iddynt gynnyg cam;
Ond rho 'mhleth i ddweyd dy bader
Ac i ofyn bendith mam.

Na boed gwen dy wyneb tirion
Byth yn gymysg gyda thrals,
Ac na chaffo brad ddichellion
Le i lechu dan dy ais.

Na boed byth i'th draed ysgogi
Oddiar ffordd ddaionus Duw:
Er ei chau a drain a drysni--
Llwybr i'r Baradwys yw.

Boed i'th riaint fyw i'th arwain
Gam a cham ar lwybrau gwir;
Na foed arnat ras yn angen
Tra yma yn yr anial dir.

Yr ydwyf yn gyrru eich llyfrau yn ol, gyda'r diolchgaiwch gwresocaf am eu
benthyg.  Yn y sypyn, hefyd, cewch hen ysgrif-lyfr, haws ei ddeall na'r
llall: mynnwn gyfeirio eich sylw at y "Cywydd i law merch," ac ni chewch
eich siomi.  Mae beirniaid da wedi meddwl mai llaw ysgrifen SION TUDUR ei
hun ydyw y llyfr hwn, ond prin y gallaf goelio hynny.  Yn Rhuthyn y
prynais i ef, am 1s. 6c.  'Digon o newid arno,' meddwch chwithau.  Pe
meddyliwn na byddai yn bechod anfaddeuol, gormeswn ar eich tiriondeb
ymhellach, a gofynwn am fenthyg _Transactions of the Cymmrodorion_,
yn ol gyda'r dygiedydd.  Yr ydwyf, ar ddymuniad gwr Eglwysig, yn bwriadu
cyfieithu "Hanes y Cymry, o farwolaeth Llewelyn hyd eu hundeb a Lloegr."

Maddeuwch fusgrellni fy llythyr,--yn wir mae gorfoledd am lwyddiant ein
Heisteddfod wedi fy nghymysgu yn llwyr, fel na wn pa beth a ysgrifenais.



"RHYWUN."


Clywais lawer son a siarad
Fod rhyw boen yn dilyn cariad;
Ar y son gwnawn innau chwerthin
Nes y gwelais wyneb Rhywun.

Ni wna cyngor, ni wna cysur,
Ni wna canmil mwy o ddolur,
Ac ni wna ceryddon undyn
Beri im' beidio caru Rhywun.

Gwyn ac oer yw marmor mynydd,
Gwyn ac oer yw ewyn nentydd;
Gwyn ac oer yw eira Berwyn,
Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.

Er cael llygaid fel y perlau.
Er cael cwrel yn wefusau,
Er cael gruddiau fel y rhosyn,
Carreg ydyw calon Rhywun.

Tra bo clogwyn yn Eryri,
Tra bo coed ar ben y Beili,
Tra bo dwfr yn afon Alun,
Cadwaf galon bur i Rywun.

Pa le bynnag bo'm tynghedfen,
P'un ai Berhiw ai Rhydychen,
Am fy nghariad os bydd gofyn,
Fy unig ateb i fydd--Rhywun.

Caiff yr haul fachludo'r borau,
Ac a moelydd yn gymylau,--
Gwisgir fi mewn amdo purwyn
Cyn y peidiaf garu Rhywun.

[Cartref Gwyn: "Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.": alun48.jpg]



MAES GARMON.


_Rhagymadrodd_.

Boed Hector flaenor a'i floedd,
Eirf Illium a'i rhyfeloedd,
Groeg anwar mewn garw gynnen,
Bynciau y per Homer hen;
Hidled Virgil, wiwged was,
Win awen uwch AEneas;
Gwnaed eraill ganiad eurwedd
Am arfau claer,--am rwyf cledd,
Byllt trwy dan gwyllt yn gwau,
Mwg a niwl o'r magnelau;
Brad rhyw haid, a brwydrau hen,
Oes, a phleidiau Maes Flodden; {45a}
Gwarchau, a dagrau digrawn,
Cotinth a Valencia lawn, {45b}
Eiliant bleth, a molant blaid
Gywreinwych ei gwroniaid.

Mae gennyf yma i ganu
Fwy gwron, sef Garmon gu;
Ag eirf dig eu gorfod oedd,
Gorfodaeth braich gref ydoedd;
Hwn gadd glod a gorfodaeth
Heb ergyd na syflyd saeth;
I lu duwiol a diarf
Yn wyrth oedd,--ac heb nerth arf;
Duw yn blaid, a wnae eu bloedd
Heibio i ddawn y byddinoedd.

_Hwyrddydd ar y Mor_.

Y dwthwn 'raeth cymdeithas
Gwyr Rhufain, o Frydain fras,
Ar hwyrddydd o ryw harddaf,
Mwyna 'rioed yn min yr haf;
E giliai'r haul, glauar hin,
Ag aur lliwiai'r Gorllewin;
Goreurai gyrrau oerion,
Ferwawg a del frig y donn;
Holl natur llawen ytoedd,
Ystwr, na dwndwr, nid oedd;
Ond sibrwd deng ffrwd ffreudeg
Llorf dannau y tonnau teg;
A'r tawel ddof awelon,
Awyr deg ar warr y donn;
Ton ar don yn ymdaenu,
Holl anian mewn cyngan cu,
Gwawr oedd hyn, a gyrr i ddod,
Ac armel o flaen gwermod;
Cwmwl dwl yn adeiliaw,
Oedd i'w weled fel lled llaw.

_Tymhestl_.

Ael wybren, oedd oleubryd,--a guddid
Gan gaddug dychrynllyd,--
Enynnai yr un ennyd,
Fel anferth goelcerth i gyd.
Mor a thir a'u mawrwaith oedd,
Yn awr, fal mawr ryfeloedd;
Mawr eigion yn ymrwygo,
Ar fol ei gryf wely gro;
Archai--gan guro'i erchwyn,
A'i dwrw ffrom--dorri ei ffrwyn;
Ymwan Udd {47} uwch mynyddoedd,
At y Nef yn estyn oedd;
Dynoethid yna weithion,
Draw i'r dydd, odreu'r donn;
Dodwodd y cwmwl dudew
Ei genllysg i'r terfysg tew;
A'r gwyntoedd rwygent entyrch,
Neifion deifl i'r Nef yn dyrch;
Deuai nos i doi y nen,
Duai'n ebrwydd dan wybren;
Ac o'r erchyll dywyll do
Tan a mellt yn ymwylltio;
Taranent nes torwynnu
Y llynclyn diderfyn du.

Yn mysg y terfysg twrf-faith
Gwelid llong, uwch gwaelod llaith,
Yn morio yn erbyn mawr-wynt,--
Mor yn dygyfor, a'r gwynt
Wnai'r hwyliau'n ddarnau'n ei ddig,
A'r llyw ydoedd ddrylliedig;
Mynedyddion mwyn doddynt,
Eu gwaedd a glywid drwy'r gwynt;
Llef irad a llygad lli,
Y galon ddewra'n gwelwi;
Anobaith do'i wynebau,
Ac ofn dor y gwyllt-for gau,
Gwynnodd pob gwep gan gynni,--
Llewygent,--crynent rhag cri
Gwylan ar ben'r hwylbren rhydd,
"Ysturmant yr ystormydd!"
A mawrwych galon morwr,
Llawn o dan, droai'n llyn dwr;
Llw fu'n hawdd, droe'n llefain O!
A chan elwch yn wylo.

_Garmon a Bleiddan_.

Yn mawr swn ymrysonau
'R tro, 'roedd yno ryw ddau
Llon hedd ar eu gwedd hwy gaid,
A chanent heb ochenaid:
Un Garmon, gelyn gormail,
A Bleiddan ddiddan oedd ail;
Gwelent drigfannau gwiwlon,
Ac iach le teg, uwchlaw tonn,--
Lle nad oes loes, fel isod,
Nac un westl dymestl yn dod;
Eiddunent hwy Dduw anian,--
Traethaf a gofiaf o'r gan.

"Hyd atad, ein Duw, eto,
Dyneswn, edrychwn dro;
Rhown i ti, rhwng cernau tonn,
Hael Geli, fawl o galon;
Rhued nawf, nis rhaid i ni,
Uwch ei safn, achos ofni:
Y lli dwfr sy'n y llaw dau,--
Dy law, 'n Ion, a'n deil ninnau.

"Ti yw arweinydd y taranau,
Tefli y sythion fellt fel saethau,--
Gan roi, a dwyn, dy ffrwyn yn ffroenau
Anwar dymestl,--mae'n wir diamau:
Yng nghynnen yr elfennau--rhoddi'r gwynt,
Gelwi gorwynt,--neu gloi ei gaerau.

"Y mor uthr udawl, a'i dra mawr ruthriadau,
Y sydd fel moelydd uwch y cymylau;
Yr wyt ti, Ynad, ar warr y tonnau,
Yn trefnu hynt y chwerw-wynt i chwarau;
Cesgli'r gwynt chwyrn i'th ddyrnau,--yn sydyn,
Arafa wedyn bob cynhyrfiadau.

"Pa ragor in' for yn fedd
Na gwaun dir i gnawd orwedd?
Cawn i'th gol o farwol fyd,
Yn nydd angeu'n hawdd ddiengyd,--
Mae'n calon yn boddloni
I uniawn drefn Un yn Dri."

Pan ar ben gorffen y gan
Y terfynai twrf anian;
Clywai'r Un sy'n cloriannu
Rhawd, o'r ser i'r dyfnder du:
Arafodd, llaesodd y lli,
Trychineb, a'r trochioni;
Mor a nen ymyrrai'n ol,
I ddistawrwydd ystyriol;
Deuai hwyl a da helynt
Y donn yn gyson a'r gwynt;
Mewn un llais rhoent hymnau'n llon,
I'r hwn a roes yr hinon;
Yna y chwai dorrai dydd,--
Dyna lan Prydain lonydd.
Doe'r llong, ar ddiddan waneg,
I ben y daith--Albion deg.

_Prydain yn 429_.

Hil Gomer yr amser hyn,
Oedd o nodwedd anhydyn;
Amryw nwyd wnae Gymru'n waeth,
Mawr gynnen, a Morganiaeth;
Gwyr digariad i'w goror,
Lanwai a cham, lan a chor:
Rhai ffol yn cymysgu'r ffydd
A choelion am uchelwydd;
Gwadu Crist, neu gydio'u cred
Ar glebr am "dreiglo abred";
Pictiaid, Ysgotiaid, weis cas,
Ruthrent, lunient alanas;
A Phrydain heb undeb oedd,
Na llyw wrth ben ei lluoedd;
Y llysoedd, yn lle iesin
Farnu gwael, oe'nt defyrn gwin;
Brad amlwg, a brwd ymladd,
Gorthrech, cri, llosgi, a lladd,
Wnae Albion,--a'u troion trwch
Yn ail i ryw anialwch.

_Taith y ddau_.

Y teulu apostolaidd
Eu bron, cyn gorffwyso braidd,
Drwy'r wlad, ar waith clodadwy
Eu Tad, ymegnient hwy.

Gan foreu godi,--rhoddi'n rhwyddion
Fyrr o Gilead wrth friwiau gwaelion;
Digyrith bleidio gwirion--rhag gwrthdrin,
Rhoi llaeth a gwin i'r llwythau gweinion.

_Cynhadledd a'r Morganiaid_.

Iselaidd furiau Salem
Godent, ac urddent a gem;
A gem y ddau ddegymydd,
Fu aur a ffurf y wir ffydd;
Gemau'r gair, disglair, dwys,
Yw parwydydd Paradwys;
Er gogan, a phob anair,
Dysgent, pregethent y gair,
Nes cwnnu'r llesg gwan o'r llaid,--
Taro'r annuw trwy'r enaid:
Lle blin a hyll o'u blaen oedd,
Ail Eden o'u hol ydoedd;
O flaen rhain, diflannu'r oedd
Heresiau mwya'r oesoedd;
Tost iawn chwedl i genedl gam
Fu'r holiad yn Verulam:
Ugeiniau o'r Morganiaid,
Ddynion blwng, oedd yno'n blaid:
Llwyddai Ion y dynion da,
Er c'wilydd Agricola;
Ar air Ion, i lawr yr aeth
Muriau gweinion Morganiaeth.

Dynion oedd dan adenydd--ystlumaidd
Gwestl amhur goelgrefydd;
Ymagorai'r magwrydd,
Gwelen' deg oleuni dydd.

Morganiaid er mawr gynnwrf,
Hwynt yn eu llid droent yn llwfr;
Yna'r dorf anwar a dig,
At y gwyr godent gerrig,--
A mynnent bwyo 'mennydd
Y rhai ffol fu'n gwyro'r ffydd!
Ond y graslon Garmon gu
A ataliodd y teulu:
Bleiddan, ar hynny, bloeddiai,--
"Clywch! eon, ry eon rai!
Pwyllwch, arafwch rywfaint!
Godde' sy'n gweddu i saint;
I'n Duw y perthyn dial,--
I'r annuw ein Duw a dal;
Par ei farn am bob rhyw fai,
Llaw dialedd lle dylai.
Ond cafodd fodd i faddau,--
Drwy gur un--gall drugarhau;
Y garw boen, hyd gaerau bedd,
Agorai gell trugaredd;
A'n harch gwir, i lenwi'r wlad
Yn farn am gyfeiliornad,
Yw troi, o ras ter yr Ion,
Galonnau ein gelynion
I droedio wrth ddeddf dradoeth;
Dyn yn ddwl,--Duw Ion yn ddoeth.
Felly yn awr, dan wawr well,
Pob un ant tua'u pabell;
Nef uchod rhoed Naf i chwi,--
Mewn heddwch dychwelwch chwi."

Tra llefarodd, troell fawrwych
Anian droes yn iawn ei drych;
Y dymer ydoedd dwymyn
Dda'i yn ei lle,--toddai'n llyn.
Gwelent ei drwg--amlwg oedd,
A'u llid--mor fyrbwyll ydoedd;
Ust! tawelynt drwyddynt draw,
O dawelwch, doi wylaw.
'Nawr o'u dwrn yn ara' deg
Parai gwir gwymp i'r garreg;
Trwst y main, a'r ubain rhwydd
Dwys, a dorrai'r distawrwydd.
Yna'r gynulleidfa'n llon
Ddychwelent--(gwedd a chalon
Eto'n awr yn gytun oedd,)
Law yn llaw, lonna lluoedd.

_Cyrraedd Ystrad Alun_.

Dau gennad gwyn!  Wedi gwyl
Hwy gyrchent at eu gorchwyl.
Llafurient a'u holl fwriad,
Dan Ior i oleuo'r wlad;
A'i dwyn hi dan ordinhad
Da reol, o'i dirywiad;
Dan y gwaith heb lid na gwg,
Trwy erlid, ymlid amlwg,
Doent wrth deithio bro a bryn,
I olwg Ystrad Alun;
Elai'r gwyr, gan eilio'r gan,
Drwy Faelor, oror eirian.
Hwyr hithau ddwyrai weithion,
Llwydai fry ddillad y fron;
Ucheron, {53} uwch ei chaerydd,
A'i t'wysai, pan darfai dydd;
Y lloer, a'i mantell arian,
Ddeuai un modd, yn y man;
Daeth o le i le fel hyn
Y faith yrfa i'w therfyn;
Nawdd Ior, ac arweinydd ddug
Y rhwyddgraff ddau i'r Wyddgrug:
Lletyent mewn lle tawel,
Trigle der a mangre mel;
Lle addas y lluyddwr
Rhufon, oedd yn union wr;
Un crefyddol, dduwiol ddawn,
Doeth, a'i gyfoeth yn gyfiawn;
Iachawdwr, a braich ydoedd,
Ac anadl ei genedl oedd;
I'w ardal deg, ateg oedd,
Llywiawdwr ei llu ydoedd;
Dau noddwr duwinyddiaeth,
Arfolli, noddi a wnaeth;
Eu siarad, am rad yr oedd,
A mesurau'r amseroedd;
Gwael greifion y goelgrefydd,
Rhannau a ffurf yr iawn ffydd;
A bro a'i hedd i barhau,
Uwch annedwydd och'neidiau;
Y duwiol hyfrydol fron
Ddiddenid a'u 'mddiddanion;
Rhufon er hynny'n rhyfedd,
Oedd o ddirgel isel wedd;
Son am loes sy'n aml isod,
A chael rhan uwchlaw y rhod,
Wnae'i fron der, yn nyfnder nod,
Chwyddo o ebwch ddiwybod;
Ei deg rudd, lle gwelwyd gwrid,
A ddeifiodd rhyw ddu ofid;
A dygai'r llef y deigr llaith
I'r golwg, 'nawr ac eilwaith.
'Roedd gwaelod y trallod trwch
I wyr Gallia'n ddirgelwch;
Hwy sylwent mai isel-wan
A dwl, oedd ei briod lan;
Beth fu'r anferth ryferthwy
Ni wyddent--ni holent hwy.

Yna, a'u bron heb un braw,
Hwy wahanent i hunaw;
Pwys y daith, mor faith a fu,
A'i gwasgodd hwynt i gysgu:
Edyn Ion, rhag troion trwch,
A'u mantellynt, mewn t'wllwch.

Yn bur a gwyneb araul,
Cwnnu yr oedd cyn yr haul
Y ddau deg, ddifreg o fryd,
A Rhufon hawddgar hefyd;
Rhodient i wrando'r hedydd
Gydag awel dawel dydd,
Hyd ddeiliog lennydd Alun,
I weld urddas glas y glyn;
Clywent sibrwd y ffrwd ffraeth
Yn dilyn hyd y dalaeth;
Y gro man ac rhai meini,
Yn hual ei hoewal hi.

Agorir dorau goror y dwyrain,
Yna Aurora sydd yn arwyrain;
Nifwl ni 'merys o flaen ei mirain
Gerbyd llachrawg, a'i meirch bywiawg buain,
Ewybr o gylch y wybr gain--teifl gwrel,
A lliwia argel a'i mantell eurgain.

Yna deffrodd awelon y dyffryn,
Ae' si trwy y dolau'n Ystrad Alun;
Haul drwy y goedwig belydrai gwed'yn,
Bu i Argoed hirell, a brigau terwyn,
D'ai lliw y rhod oll ar hyn--fel porffor,
A goror Maelor fel gwawr aur melyn.

Ar ei hadain, y seingar ehedydd
Fwria'i cherddi i gyfarch y wawr-ddydd;
Deffroai gantorion llon y llwynydd
I bereiddio awelon boreu-ddydd,--
A pher wawd i'w Creawdydd,--trwy'r wiw-nen,
O ferion awen,--am foreu newydd.

Bwrid ar hyn heb eiriach,
Ganiadau o bigau bach;
Eu glwys-gerdd lanwai'r glasgoed,--
Caniadau rhwng cangau'r coed;
Gwna bronfraith dasg ar las-gainc,
Trwsio'i phlu a chanu'i chainc.

Yna llon ganai llinos--i gynnal
Cerdd geinwech yr eos,
Ymorau heb ymaros,
I Geli am noddi'r nos.

A seiniai, pynciau pob pig
I'w Creawdwr caredig;
Nes yr aeth yn mhen ennyd
Yr wybr fan yn gan i gyd.

Esgynnent, troent eu tri
I balawg Fryn y Beili,
I weld y wlad,--ferthwlad fau,--
Rhedai Alun trwy'i dolau
Dyffrynol, breiniol a bras,
Oll yn hardd a llawn urddas;
Duw Celi oedd gwedi gwau
'N gywrain eu dillad gorau;
Deor myrr, neithdar, a mel,
Yn rhywiog a wnae'r awel;
Aroglai'r manwydd briglas,
Y bau a'i chwrlidau'n las;
A diffrwyth lysiau'r dyffryn
Gwlithog, fyrdd, mewn gwyrdd a gwyn.
Ebrwydd, y corn boreubryd
Alwai 'ngwrth y teulu nghyd;
Teulu y castell telaid,
'Nol porthi, mewn gweddi gaid.

Rhufon a yrrai hefyd
Efo'r gweis, trwy'r fro i gyd,
Am neges em enwogion
I weled tir y wlad hon,--
Yr eilient yn ochr Alun
Araeth am gadwraeth dyn;
A'u bod am weini bedydd
Yn ael y dwfr, ganol dydd;
Ag awydd ferth, gweddai fod
Bawb ynaw a'u babanod;
Mai bechan y Llan oll oedd
I gynnwys amryw gannoedd.

_Gofid Rhufon_.

Felly aent o'r arfoll hon
Eu tri, i'r gerddi gwyrddion;
Mawl i Dduw roent mewn teml ddail,
Gwedi 'i gwau gyda gwiail;
Ei lloriau, a gleiniau glwys,
B'rwydid fel ail Baradwys;
Sonient, with aros yno,
Am och a brad,--am uwch bro,--
    
<<Page 2   |   Page 3   |   Page 4>>
Go to Page Index for Gwaith Alun

You are here --- [ Home / Author Index A / Alun / Gwaith Alun / Page #3 ]