|
|
GWAITH ALUN
[John Blackwell (Alun): alun0a.jpg]
[Gwaith Alun: alun0b.jpg]
Rhagymadrodd.
Ganwyd John Blackwell (_Alun_) mewn bwthyn ger y Wyddgrug yn 1797. Un o
Langwm oedd ei fam--gwraig ddarbodus a meddylgar; a dilynai ei mab hi i'r
seiat a'r Ysgol Sul, gan hynodi ei hun fel dysgwr adnodau ac adroddwr
emynau. Mwnwr call, dwys, distaw, oedd ei dad, a pheth gwaed Seisnig
ynddo; cydymdeimlai yntau a'i fachgen.
Yn unarddeg oed, heb addysg ysgol ond yn awyddus am wybodaeth,
prentisiwyd ef gyda chrydd oedd yn fardd. Pan yn ddwy ar bymtheg, wedi
bwrw ei brentisiaeth, medrai fforddio prynnu llyfrau; a cherddai'n aml i
Gaer i chwilio'r siopau. Derbyniai gylchgronau, prynnai lyfrau Cymraeg,
chwiliai am feirdd. Llenorion yr ardal oedd ei gyfeillion, y gynghanedd
ei hoffter.
Yn 1823 disgleiriodd fel seren yn awyr Eisteddfod Cymru. Yn Eisteddfodau
Rhuthyn, Caerwys a'r Wyddgrug tynnodd sylw; gyda'i awdl Genedigaeth
Iorwerth II. yn y gyntaf, a chyda'i awdl Maes Garmon yn yr olaf. Yr oedd
ei fryd erbyn hyn ar gymeryd urddau eglwysig, a chafodd noddwyr caredig.
Yn 1824 aeth i'r Beriw, pentref hyfryd ger y fan yr abera afon Rhiw i
afon Hafren. Yma dysgai Ladin a Groeg gyda'r ficer, y Parch. Thomas
Richards. Yn y lle tawel Seisnig hwn, cymerodd ei awen edyn ysgafnach,
cywreiniach. Clerigwyr pobtu'r Hafren oedd ei gyfeillion, ac yn eu mysg
yr oedd Gwallter Mechain ac Ifor Ceri. Yma, at Eisteddfod y Trallwm, y
cyfansoddodd ei draethawd gorchestol ar yr iaith Gymraeg.
Yn Rhagfyr, 1825, ymaelododd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; pasiodd ei
arholiad gradd olaf ym Mai, 1828. Ymdrechodd yn galed; a'i fryd ar
lwyddiant yn yr arholiadau, ar astudio llenyddiaeth Gymreig, ac ar
ymbaratoi at waith pwysig ei fywyd. Gloewodd ei awen, a dysgodd felodi
newydd, yng nghwmni Homer a Vergil.
Daeth adre at Eisteddfod Dinbych yn 1828; cafodd ynddi wobr am ei Farwnad
Heber, a chynrychiolai ei gyd-efrydydd Ieuan Glan Geirionydd, trwy
eistedd drosto yn y gader enillasai awdl Gwledd Belsasar.
Ionawr 15, 1829, ordeiniwyd Alun yn gurad Treffynnon. Bu yno, yn fawr ei
barch fel gweinidog a llenor, hyd 1833, pryd y rhoddodd Arglwydd Brougham
iddo fywoliaeth Maenor Deifi ym Mhenfro. Yn 1834 cychwynodd y
_Cylchgrawn_, cylchgrawn gwybodaeth fuddiol, mewn rhyddiaith clasurol a
phur. Yr oedd y _Gwladgarwr_ eisoes ar y maes; a digiodd Alun ei
gyfeillion, yn enwedig Ieuan Glan Geirionydd ac Erfyl, am wrth-ymgais.
Ond ychydig elynion fu iddo. Yr oedd mor anhunangar a hael ei ysbryd,
mor ddifyr a mwyn ei gwmni, mor bur ei fuchedd.
Bu farw Mai 19, 1840; a chladdwyd ef ym Maenor Deifi. Cyhoeddwyd ei
waith yn 1851.
Eos Cymru oedd Alun,--yn felus a dwys yr erys ei nodau yng nghlust ei
genedl.
OWEN M. EDWARDS.
_Ebrill 9, 1909_.
Cynhwysiad.
[Ceisiwyd trefnu'r darnau mor agos ag y gellid i'w trefn amseryddol.]
I. Y WYDDGRUG. 1797-1824.
Iddo Ef
Angau
Cymdeithas Caer
Dau Englyn Priodas
Genedigaeth Iorwerth II.
Cerdd Gwyliedydd y Wyddgrugr
Llwydd Groeg
Eisteddfod Caerwys
Dafydd Ionawr
Gwyl Ddewi
Eisteddfod y Wydderug
Rhywun
Maes Garmon
II. ABERIW. 1824.
Bywyd yn Aberiw
Ifor Ceri
Emyn Pasg
Englyn i Ofyddes
A Pha Le Mae? (Cyf.)
Eisteddfod y Trallwm
Caroline
Beddargraff
Bugeilgerdd
Yr Hen Amser Gynt
I --
Gadael Rhiw
III. RHYDYCHEN. 1825-1828.
At Gyfaill
College Life
At Lenor
Telyn Cymru
At ei Rieni
Cywydd y Gwahawdd
Disadvantages and Aims
Calvinism
At ei Fam, pan oedd Weddw
Cwyn ar ol Cyfaill
Marwolaeth Heber
Seren Bethlehem
IV. BLYNYDDOEDD ERAILL. 1828-1840.
At Manor Deifi
Cathl yr Eos
Abad-dy Tintern
Can Gwraig y Pysgotwr
Y Ddeilen Grin
Y Darluniau.
ALUN
"Does destyn gwiw i'm can,
Ond cariad f' Arglwydd glan."
COLOFN MAES GARMON--S. MAURICE JONES.
CARTREF MEBYD ALUN--S. MAURICE JONES.
CASTELL CONWY {1a}
"Ar furiau tref ai rhaid trin
Anhoff astalch a ffestin?"
MARATHON
"Gwnawn weunydd a llwynydd llon,
Mawr hwythau, fel Marathon"
CAERWYS {1b}
"Lluman arfoll Minerfa
Sydd uwch Caerwys ddilys dda."
RHYWUN {1c}
"Gwyn ac oer yw eira Berwyn."
UN O HEOLYDD CAERWYS
"Hawddamor bob gradd yma, orwych feirdd."
YR AMSER GYNT {1d}
"Bu'n hoffi mi, wrth deithio 'mhell
Gael croesaw ar fy hynt."
GWRAIG Y PYSGOTWR
"Dwndwr daear sydd yn darfod,
Cysga dithau ar dy dywod."
Rhai Geiriau.
[Lle rhoddir yr esboniad yn Saesneg, dealler mai esboniad Alun ei hun yw
hwnnw.]
Abred, ystad dadblygiad trwy gyfnod drwg anelwig i ddynoliaeth hapus;
"treiglo abred," mynd trwy holl dro trawsfudiad.
Arfeddyd, bwriad, amcan.
Balawg, uchel.
Brathawg, _apt to stab, assassinating_.
Breila, breilw, rhosyn.
Breyr, uchelwr, gwrda, barwn.
Callawr, crochan.
Deddyw, daeth.
Diachreth, di-gryn, cadarn.
Diarynaig, _hero_
Digrawn, llifol, heb gronni
Digyrrith, hael, caredig.
Dyheuent, _gasping for breath_.
Dyspaidiad, _in the intermission_.
Eiriach, cynhilo
Elwch, llawenydd, gorfoledd.
Enrhaith, _fellows_.
Ffladr, caruaidd, taer wenieithus, anwyl.
Fflwch, llawn; buan.
Galon, gelynion.
Germain, _shout_.
Gofynaig, cais.
Gorthaw, distawrwydd, amynedd.
Gwawrwalch, _a valiant man, a hero_.
Graid, _fire, urgency_.
Gryw, Greek.
Gwaladr, tywysog, rheolwr.
Gyrr, _attack, onset_.
Hadledd, dirywiad, dinistr.
Heng, gwth, taith orfod.
Hirell, _gleams of light_.
Huddug, tywyll, trist.
Hwi'n golofn, _form into a column_.
Loes gwefrawl, _electrical shock_.
Lleuai, _read_.
Main, meini.
Mwd, tan y to, nenfwd.
Nwyfre, awyr, nef.
Rhialyd, natur, greddf.
Rhom, rhyngom.
Sarllach, bost, bloddest.
Sawdan, Soldan, Sultan.
Sitwyr, _rangers, freebooters_.
ALUN.
[Ym Mhonterwyl, Ger Y Wyddgrug: alun8.jpg]
"IDDO EF."
_Dat. i. 5_.
'Does testun gwiw i'm can
Ond cariad f' Arglwydd glan
A'i farwol glwy;
Griddfanau Calfari,
Ac angau Iesu cu,
Yw nghan a mywyd i,
Hosanna mwy.
Paham bu i ddeddf y net
Ymaflyd ynddo EF,
A rhoi iddo glwy?
Fe roddwyd yn y drefn,
Fy meiau ar ei gefn;
Pwy na roi floedd drachefn--
Hosanna mwy.
Ergydiwyd ato EF,
Gan uffern, byd, a nef,
Eu saethau hwy:
Arhodd ei fwa'n gry',
Nes maeddu uffern ddu,
A phrynu mywyd i,
Hosanna mwy.
Caniadau'r nefol gor,
Sydd oll i'm Harglwydd Ior
A'i ddwyfol glwy;
Y frwydr wedi troi,
Ellyllon wedi ffoi,--
Sy'n gwneyd i'r dyrfa roi
Hosanna mwy.
O faint ei gariad EF!
Nis gall holl ddoniau'r nef,
Ei dreiddio drwy:
Mae hyn i mi'n beth syn,
I ruddfan pen y bryn
Droi'n gan i mi fel hyn,
Hosanna mwy.
Pan ddelo'r plant ynghyd,
O bedair rhan y byd,
I'w mangre hwy;
Tan obaith yn ddilyth,
Cael telyn yn eu plith,
I ganu heb gwyno byth,
Hosanna mwy.
Tra bwyf ar riwiau serth,
Preswylydd mawr y berth,
Rho'th gwmni trwy;
Mae cofio am y loes
Dan arw gur y groes,
Yn rhyw feluso f'oes,
Hosanna mwy.
Na ddigied neb o'r plant,
Am imi ganu ar dant
O'u telyn hwy:
Myfyrio'r tywydd du
Fu ar ein Iesu cu,
A droes fy nghan mor hy',
Hosanna mwy.
ANGAU.
_Englynion a ysgrifenwyd yn ddifyfyr ym mynwent y
Wyddgrug_.
"Ni foddir (mae'n rhyfeddol)--chwai angau,
A chyngor dymunol;
Er wban, griddfan greddfol,
(Uthr in' yw!) ni thry yn ol.
Er gwaedd mam,--er gweddi myrdd,
Er gwen byd,--er gwyneb hardd,
Er swn cwyn,--er seinio cerdd,
Er ing ffull, mynn angau'i ffordd.
Ni eiriach rai bach rhag bedd,--i'r cedyrn
Rhoir codwn i'r dyfn-fedd;
A mirain feibion mawredd
Ostyngir, siglir o'u sedd.
I'r llaid yr aeth fy nhaidiau,--i huno,
Fu'n heinyf er's dyddiau:
I'r ystafell dywell dau,
Ryw funud, yr af innau.
Ond cael nod hynod, a hedd--yr Iesu,
A drws i dangnefedd;
Yn dawel yn y diwedd,
Af i gaban bychan bedd.
CYMDEITHAS GYMREIGYDDOL CAERLLEON.
Boed llwydd, mewn pob dull addas,--a chynnydd
I'ch enwog Gymdeithas;
Heb stwr, na chynnwr, na chas--
Geni beirdd heirdd fo'i hurddas.
Bu gannoedd drwy bob gweniaith,--addefent,
Am ddifa'r Omeriaith;
Aent hwy i lawr i fynwent laith--
I fyny safai'r fwyn-iaith.
Heddyw gwelaf na faidd gelyn--er gwyn,
Roi gair yn ei herbyn;
A dolef gref sy'n dilyn,
"A lwyddo Duw, ni ludd dyn."
Cur llawer fu Caerlleon,--y gw'radwydd
Sy'n gwrido hanesion;
Am groesi'r Clawdd hir i hon,
Brethid calonnau Brython.
'Nawr Cymry gant wisgant wen,
Chwarddu gant a cherddi gwin,
Ceir bri, a chwmni, a chan,
O fewn Caer heb ofn y cwn.
Byw undeb, gyda bendith,--a daenir
O'ch doniawl athrylith:
Gelyn breg, rhwyg rheg rhagrith
I chwerwi'ch plaid, na chaer i'ch plith.
DAU ENGLYN
Ar Briodas Mr. P. Williams a Miss Whitley, Broncoed.
Gan Naf eiddunaf i'r ddau--bob undeb,
A bendith, a grasau,
I fyw'n hir, ac i fwynhau
Dedwyddwch hyd eu dyddiau.
Eirchion y gwaelion heb gelu,--pur rad
Parhaus fo'n defnynnu:
Pob urddawl ollawl allu
Iddyn' ddel--medd Ioan Ddu.
Tach., 1812
GENEDIGAETH IORWERTH II.
_Llais llid Iorwerth_.
Clywch! clywch! ar hyd lannau Clwyd
Ryw swn oersyn o arswyd!
Gorthaw'r donn, cerdda'n llonydd,
Ust! y ffrwd,--pa sibrwd sydd?
O Ruddlan daw'r ireiddlef
Ar ael groch yr awel gref;
Geiriau yr euog Iorwerth,
O 'stafell y Castell certh;
Bryd a chorff yn ddiorffwys,--
Hunan-ymddiddan yn ddwys:
Clywch, o'r llys mewn dyrys don,
Draw'n sisial deyrn y Saeson,--
"Pa uffernol gamp ffyrnig?
A pha ryw aidd dewraidd dig?
Pa wrolwymp rialyd
Sy'n greddfu trwy Gymru 'gyd?
Bloeddiant, a llefant rhag llid,
Gawrwaeddant am deg ryddid,--
'Doed chwerwder, blinder, i blaid
Ystryw anwar estroniaid;
Ein gwlad, a'n ffel wehelyth,--
Hyd Nef,' yw eu bonllef byth;
Ac adsain main y mynydd,--
Och o'u swn!--yn gasach sydd;
'Ein gwlad lan amhrisiadwy,'
Er neb, yw eu hateb hwy.
"Pa les yw fod im' glod glan
Am arswydo'r mawr Sawdan,--
Pylu asteilch Palestin,
Baeddu Tyrciaid, bleiddiaid blin;
Troi Chalon wron i weryd,
Ie, curo beilch wyr y byd,--
Os Gwalia wen,--heb bennaeth,
A'i mawrion gwiwlon yn gaeth,--
Heb fur prawf,--heb farrau pres,
Na lleng o wyr, na llynges,--
A ymheria fy mawr-rwysg,
Heb fy nghyfri'n Rhi mewn rhwysg?
Er cweryl gyda'r cawri,
A lladd myrdd, nid llwydd i mi;
Ni fyddaf, na'm harfeddyd,
Ond gwatwor tra byddo'r byd.
"Ha! ymrwyfaf am ryfel,
O'm plaid llu o ddiafliaid ddel:
Trowch ati'r trueni trwch,
Ellyllon! gwnewch oll allwch.
"I ti, O Angeu, heddyw y tyngaf,
Mai am ddialedd mwy y meddyliaf;
Eu holl filwyr, luyddwyr, a laddaf,
Un awr eu bywydau ni arbedaf;
Oes, gwerth, i hyn aberthaf,--gwanu hon
Drwy ei chalon fydd fy ymdrech olaf.
_Dichell Iorwerth_.
"Ha! ha! Frenin blin, i ble
Neidiodd dy siomgar nwyde?
Oferedd, am hadledd hon,
Imi fwrw myfyrion;
Haws fydd troi moelydd, i mi,
Arw aelgerth, draw i'r weilgi,
Nac i ostwng eu cestyll,
Crog hagr, sef y creigiau hyll.
"Oni ddichon i ddichell,
Na chledd na nych, lwyddo'n well?
Rhyw ddu fesur ddyfeisiaf,--
Pa ystryw ddwys, gyfrwys gaf?
Pa gais? pa ddyfais ddifeth
Gaiff y budd,--ac a pha beth?
"'Nawr cefais a wna r cyfan,--
Mae'r meddwl diddwl ar dan;
Fy nghalon drwy 'nwyfron naid,
A llawenydd ei llonaid;
Gwnaf Gymru uchel elwch,
I blygu, a llyfu'r llwch:--
I wyr fy llys, pa'nd hyspyswn
Wiw eiriau teg y bwriad hwn?"
A chanu'r gloch a wnai'r Glyw,
Ei ddiddig was a ddeddyw,--
"Fy ngwas, nac aros, dos di,
A rhed," eb ei Fawrhydi,--
"Galw ar fyrr fy Mreyron,
Clifford hoew, Caerloew lon;
Mortimer yn funer fo,
A Warren, un diwyro."
Deuent, ymostyngent hwy
I'w trethawr, at y trothwy:
O flaen gorsedd felenwawr
Safai, anerchai hwy'n awr,--
"Cyfeillion bron eich Brenin,
A'i ategau'r blwyddau blin,--
Galwyd chwi at eich gilydd
Am fater ar fyrder fydd;
Gwyddoch, wrth eu hagweddau,
Fod llu holl Gymru'n nacau
Ymostwng, er dim ystyr,
I'm hiau o gylch gyddfau'u gwyr;
Ni wna gair teg na garw,--
Gwen, na bar,--llachar, na llw,
Ennill eu serch i'm perchi,
Na'u clod i'm hawdurdod i:
Ni fynnant Bor, cynnor cain,
Ond o honynt eu hunain;
Ganedig bendefig da,
O'u lluoedd hwy a'u llywia:--
Ond cefais, dyfeisiais fodd,
O dan drais, i'w dwyn drosodd;
Ac i mi gwnant roddi rhaith,
Ac afraid pellach cyfraith;
Rhoi llyffeithair a gair gaf,--
Gair Gwalia gywir goeliaf:--
Yn rhywfodd, ni ddysgodd hon
Er lliaws, dorri llwon:
Elinor, lawen araf,
Mewn amhorth yn gymorth gaf;
Mererid i'm Mreyron
I'w cais pur trwy'r antur hon."
Traethai'r Brenin, gerwin, gau,
Ar redeg ei fwriadau;
A'r Cyngor wnai glodfori,
Mor ddoethwedd rhyfedd eu rhi,
A'i ddihafal rialyd,
Mewn truthiaith, gweniaith i gyd.
Yna'r arglwyddi unol
A gilient, nesent yn ol,
Gan grymu pen i'w Brenin,
Laig ei glod, a phlygu glin.
_Ufudd-dod y Frenhines_.
E geisiai frys negesydd
Yn barod, cyn darfod dydd,--
A gyrrai, ar farch gorwych,
I'r brif-ddinas y gwas gwych,
A gofynaig i'w Fanon,
A gair teg am gariad hon:
Y lonwech bur Elinawr
Serchog, oedd yn feichiog fawr;
Gofynnai a hwyliai hon,
Gryn yrfa, i Gaernarfon,
Ar fyrder, fod mater mawr
I'w ddisgwyl y dydd esgawr.
O fodd ufuddhaodd hon,
Iach enaid, heb achwynion;
Dechreuai'r faith daith, 'run dydd,
Mewn awch, a hi'n min echwydd;
Gwawl lloer, mewn duoer dywydd,
A'i t'wysai pan darfai dydd;
Oer y cai lawer cawod,
Cenllysg yn gymysg ag od;
Anturiai, rhodiai er hyn,
Trwy Gwalia, tir y gelyn;
Er ymgasgl bar o'i hamgylch,
A'i chell yn fflamiau o'i chylch,--
Ni wnai hon ddigalonni,
Mor der oedd ei hyder hi;
(Ow! ow! 'n wir beri'r bwriad
Tra glew, er dinistrio gwlad:)--
Daeth, wrth deithio o fro i fryn,
Y faith yrfa i'w therfyn.
A'r deyrnes gynnes, heb gel
Yn ddiegwan ddiogel;
Rhoes Iorwerth eres warant,--
Ae rhingyll i gestyll, gant,
Am alw cydymweliad
Brenin ac arglwyddi'n gwlad:
Rhuddlan oedd y fan i fod
Hygof erfai gyfarfod;
I dorri rhwystrau dyrys
|